Episode details

Radio Cymru,1 min
Sion Aled Owen Bardd Mis Hydref - Cerdd ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.
Bore CothiAvailable for over a year
Dathliad Ar Ddydd Cenedlaethol Barddoniaeth dyma fi’n meddwl: pryd ges innau ’ngeni’n fardd? Ai wrth ddiflasu’n llwyr ar adrodd ac ailadrodd ryw hen stori am dedi’n hedfan mewn balŵn yn nosbarth y babis? Oeddwn i’n trio dweud fy nweud bryd hynny heb gêr y geiriau? Neu fallai yng ngwersi cyffrous ‘intensive writing’ Mrs Pari-Jones yn David Hughes? Bardd yr iaith fain fyddwn gynta’ felly. Ond tybed mai Mr Arwel Jones, yr athro Cymraeg roedd gas ganddo ‘Welsh’, a gamodd i swydd y fydwraig wrth ddatgloi dirgelion y gynghanedd yn Fform Ffôr? Ynte a arhosais yn y groth ryddieithol, wir, hyd ddyddiau creadigol chwil y Gelli Aur, ac Iwan Llwyd, Wil Garn ac Emyr Lewis yn frodyr yn y feithrinfa? Wn i ddim. Felly waeth i heddiw fod i minnau’n ddydd fy nathlu ac yn ddydd pen-blwydd barddoniaeth i ni oll. Cyfarchion y gerdd i bawb.
Programme Website