ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,03 Sep 2025,52 mins

Dwi'n licio'r positifrwydd 'ma!

Y Coridor Ansicrwydd

Available for 305 days

Am y tro cyntaf ers sbel, mae gan y criw ddigon o reswm i deimlo'n obeithiol am obeithion clybiau Cymru. Yn ogystal â chanlyniadau addawol, mae Abertawe wedi cryfhau'r garfan gan wario'n sylweddol ar chwaraewyr newydd am y tro cyntaf ers tro. Ac er nad ydi canlyniadau Wrecsam wedi bod cystal, does dim posib cwestiynu’r uchelgais wrth i'w gwariant nhw dros yr haf fynd heibio £30m. Mae Caerdydd hefyd wedi synnu nifer drwy arwyddo Omari Kellyman ar fenthyg - chwaraewr canol cae symudodd i Chelsea am £19m y llynedd. A phrin fod cefnogwyr yn gallu cwyno efo'r perfformiadau ar y cae wrth i'r Adar Gleision godi i frig Adran Un. Dydi pethau ddim cystal yng Nghasnewydd, ond dyddiau cynnar ydi hi i'r rheolwr newydd Dave Hughes... Ac wrth gwrs, mae gan Gymru daith hir i Kazakstan ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2026. Ydi diffyg munudau rai o amddiffynwyr Cymru am greu penbleth i'r rheolwr Craig Bellamy?

Programme Website
More episodes