Diweddarwyd: 20 Ionawr 2017
1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif ѿý.
2. Yna, ar unrhyw un o wefannau’r ѿý, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar ben y dudalen. (Os oes gennych enw arddangos, bydd yn dangos eich enw arddangos, nid "Eich cyfrif"). Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.
3. Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.
4. Ar y sgrin “manylion personol”, gallwch newid popeth ac eithrio eich dyddiad geni. Cliciwch ar “Golygu” wrth ymyl beth bynnag rydych chi eisiau ei newid. Bydd angen i chi roi eich cyfrinair cyfredol o bosibl er mwyn i ni wybod mai chi sydd yno.
5. Pan fyddwch chi wedi gorffen popeth, cliciwch ar “Cadw a pharhau”.
Methu cofio eich cyfrinair cyfredol?
Bydd yn rhaid i chi ei ailosod. Cewch wybod sut i wneud hynny yn “Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair”.
Dan 13 oed?
Cewch ragor o wybodaeth am gyfrifon plant yma.
Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.