Diweddarwyd: 3 Rhagfyr 2018
Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn wasanaeth cyhoeddus. Mae'n rhaid i bopeth a wnawn fod o fudd i chi, ein cynulleidfa.
Gallwn roi mwy o'r hyn rydych chi'n ei hoffi pan fyddwn ni'n eich deall chi'n well. I wneud hynny, rydyn ni’n gofyn i chi fewngofnodi i rai o’n cynnyrch a’n gwasanaethau. Rydyn ni hefyd 'yn defnyddio eich data er eich budd chi mewn dwy ffordd:
1. ÃÛÑ¿´«Ã½ sy'n fwy personol i chi
Mae'n ein helpu ni i wneud y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn fwy personol i chi. Mae’n golygu y gallwn:
- Argymell pethau rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n eu hoffi
- Dangos cynnwys sy'n berthnasol i lle’r ydych chi’n byw
- Gwneud yn siŵr y gallwch chi ddefnyddio pethau sy'n briodol i’ch oedran.
2. ÃÛÑ¿´«Ã½ sy'n well i bawb
Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae angen i ni wneud rhywbeth i bawb. Wrth i fwy o'n cynnwys gael ei ddefnyddio ar-lein, mae'n helpu i ddeall pwy sy'n ei ddefnyddio fel y gallwn:
- Sicrhau ein bod ni yn gwneud rhywbeth i bawb.
- Dysgu mwy am beth rydych chi'n ei fwynhau fel y gallwn wella ein cynnwys yn y dyfodol.
Dyna pam rydyn ni'n gofyn i chi fewngofnodi a darparu ychydig o wybodaeth.
Ond drwy gydol hyn oll, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol a phreifat yn aros yn ddiogel.
Beth mae'r addewid preifatrwydd yn ei ddweud
Mae'r addewid preifatrwydd yn cwmpasu sut rydyn ni’n trin eich data ac yn rhoi rheolaeth i chi dros yr hyn sy'n digwydd iddo. Mae’n seiliedig ar dri phrif faes...
Tryloywder
Byddwn wastad yn esbonio’n glir pa ddata rydyn ni'n ei gasglu amdanoch chi a pham ein bod ni'n gwneud hynny. Byddwn ond yn casglu’r data sydd ei angen arnom i:
- rhoi profiad gwell i chi
- gwella ein gwasanaethau
- cyflawni ein cyfrifoldebau fel gwasanaeth cyhoeddus.
Cewch ragor o wybodaeth am eich gwybodaeth a’ch preifatrwydd yma.
Dewis
Chi sy'n dewis sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau. Ac fe allwch chi reoli neu ddileu eich cyfrif ÃÛÑ¿´«Ã½ unrhyw bryd. Mae rhagor o wybodaeth am reoli eich cyfrif fan hyn.
Oherwydd ein bod ni'n wasanaeth cyhoeddus, byddwn ni'n eich helpu i wneud penderfyniadau doeth ynglÅ·n â'ch data fel fod pawb yn cael y gorau o dechnolegau digidol a'r ÃÛÑ¿´«Ã½. Mae rhagor o wybodaeth ynglÅ·n â beth rydyn ni'n ei wneud â'ch data fan hyn.
Ymddiriedaeth
Mae eich ymddiriedaeth yn hynod bwysig i ni. Felly rydyn ni wedi ymrwymo i gadw eich data yn ddiogel.
Rydyn ni'n addo i beidio byth â gwerthu eich manylion personol i unrhyw un ac i ddim ond defnyddio eich data yn fasnachol os ydych chi'n defnyddio un o wasanaethau masnachol y ÃÛÑ¿´«Ã½.