Ôl-gynhyrchu Creadigol
Mae adran ôl-gynhyrchu ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales yn cynnig gwasanaethau o’r radd flaenaf, gan gynnig atebion creadigol, technegol ac arloesol ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau darlledu.
Gyda chyfleusterau wedi’u lleoli ar draws dau safle yng Nghaerdydd, mae ein tîm arbenigol yn helpu i wireddu gweledigaeth greadigol i ddarlledwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a chrewyr cynnwys.
Mae ein cyfleusterau wedi’u cynllunio i wasanaethu cynyrchiadau o bob maint, gan gynnig profiad ôl-gynhyrchu llyfn, ymdrochol ac ar y cyd. P’un a ydych yn cynhyrchu ffilm fer, cyfres aml-bennod, neu ddigwyddiad darlledu mawr, ry’n ni’n cynnig atebion wedi’u teilwra i gwrdd â’ch anghenion creadigol, eich amserlen a’ch cyllideb.
Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer pob agwedd ar ôl-gynhyrchu, o gynllunio i’r rhaglen derfynol, gan sicrhau gwasanaeth effeithlon, o safon, ar bob cam o’r daith.
Mae ein hystafelloedd golygu yn cynnig opsiynau i olygu agAvid Media Composer ac Adobe Premiere, ynghyd ag opsiynau golygu o bell. Mae 25 o ystafelloedd all- lein a 12 Ar-lein ar draws yr ystâd, yn ogystal â Theatr Graddio Baselight, 4 Ystafell Dybio ac 3 Ystafell Dylunio Sain. Mae gennym ni’r dechnoleg i gefnogi’r cynyrchiadau mwyaf cymhleth.
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch â ni
I holi am ddefnyddio Stiwdios Teledu ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru, Cyfleusterau Darlledu Allanol, Radio, Ôl-gynhyrchu neu gyfleusterau Dylunio Graffeg ar draws pob genre o gynhyrchu teledu a sain, anfonwch ymholiadau a cheisiadau am ddyfynbris i: walesopsenquiries@bbc.co.uk