Gwasanaethau Cynhwysfawr
O’r frawddeg gyntaf i’r darllediad terfynol, mae ein tîm arbenigol yn sicrhau bod eich cynhyrchiad wedi’i lunio i berffeithrwydd. Mae ein gwasanaethau yn cwmpasu pob cam o gynhyrchu sain, gan gynnwys:
• Caffael: Recordio sain o ansawdd uchel gyda manwl gywirdeb
• Golygu: llunio a mireinio sain i gyd-fynd â’ch gweledigaeth greadigol
• Cymysgu: cyfuno traciau i greu sain orffenedig a chytbwys
• Ôl-Gynhyrchu: ychwanegu'r cyffyrddiadau olaf ar gyfer darlledu neu gyflwyno
• Cyflwyno a Darlledu: sicrhau bod eich sain yn cyrraedd cynulleidfaoedd gyda sain o ansawdd clir.
Arbenigedd i ymddiried ynddo
O ddramâu poblogaidd i ddigwyddiadau byw a dogfennau grymus, mae ein criw wedi gwneud y cyfan. Gyda phrofiad helaeth ar draws cynyrchiadau’r ÃÛÑ¿´«Ã½ a’r sector annibynnol, mae gennym y sgiliau, y creadigrwydd a’r mewnwelediad technegol i sicrhau bod eich prosiect o ansawdd uchel.
Pam dewis ni?
• Cyfleusterau o'r radd flaenaf: yn barod i ymdrin â phrosiectau o unrhyw faint a chymhlethdod.
• Gweithwyr proffesiynol profiadol: tîm angerddol am ddarparu sain o’r ansawdd uchaf
• Enw da: Ymae’r diwydiant yn barod yn ymddiried ynom ni - mae gyda ni hanes o ragoriaeth.
Cysylltwch â ni heddiw i drafod eich anghenion cynhyrchu – gadewch i ni fynd â’ch gwaith sain gam ymhellach.
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch â ni
I holi am ddefnyddio Stiwdios Teledu ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru, Cyfleusterau Darlledu Allanol, Radio, Ôl-gynhyrchu neu gyfleusterau Dylunio Graffeg ar draws pob genre o gynhyrchu teledu a sain, anfonwch ymholiadau a cheisiadau am ddyfynbris i: walesopsenquiries@bbc.co.uk