Stiwdio Ddrama Radio Dylan Thomas
Mae Stiwdio Ddrama Radio Dylan Thomas wedi'i lleoli ar lawr gwaelod yr adeilad, ac fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer cynyrchiadau drama ar gyfer gwasanaethau rhwydwaith a chenedlaethol. Mae ganddi wahanol ofodau, gan gynnwys ‘ystafell farw’ i efelychu acwsteg awyr agored, grisiau llawn maint, ac ‘ystafell wely’ i fyny'r grisiau Mae hefyd yn addas ar gyfer bandiau mawr.
Mae ystafell werdd ar gael i gyfranwyr ymlacio ac ymarfer cyn unrhyw recordiad. Gellir archebu hwn drwy'r Tîm Cynllunio ar ôl trafodaeth â'r tîm drama radio i wirio argaeledd.
• 32 fader desg sain system ddigidol SSL
• Ystafell olygu ar wahân
• Sadie aml-drac yn yr ystafell reoli a’r ystafell olygu
• Uned effeithiau aml-sianel Eventide h9000
• Blwch llwyfan ar gyfer ei ddefnyddio mewn gwahanol leoliadau ledled yr adeilad