Sain
Profwch gynhyrchu sain ar ei orau gyda’n cyfleusterau dyblygu o’r radd flaenaf, wedi’u hadeiladu i fodloni safonau’r diwydiant ac i gefnogi pob agwedd o’ch anghenion sain. Mae pob ystafell yn cynnig amgylchedd distaw a chyfforddus, wedi’i gynllunio i feithrin creadigrwydd a’ch galluogi i gydweithio.
• 3 ystafell dybio fawr sy’n cynnig Dolby Atmos yn Sgwâr Canolog y ѿý, wedi'u cynllunio ar gyfer cymysgu a meistroli sain o’r radd flaenaf
• 1 ystafell sain olygyddol, sy’n cynnwys Dolby Atmos a gallu cynhyrchu binaural. Mae’n ddelfrydol ar gyfer dylunio sain fanwl a phrofiadau sain i ymgolli ynddynt
• 3 bwth lleisio, wedi’u hintegreiddio’n llawn â’r holl gyfleusterau sain i sicrhau llif gwaith recordio di-dor a’r ansawdd sain gorau posibl.
Technoleg Uwch:
• Dolby ѿý Atmos ac offer ar gyfer cymysgu trochi binaural
• Gallu cymysgu sain Stereo a 5.1 amgylchynol fel safon, gan ddarparu hyblygrwydd ar gyfer anghenion cynhyrchu amrywiol.
• Y meddalwedd lleihau sŵn AI diweddaraf ar gyfer deialog, wedi'u cynllunio i adfer a thrwsio sain a recordiwyd mewn amgylcheddau anodd a swnllyd.
• Avid Pro Tools gyda consol S6 flaengar ar gyfer peirianneg sain o ansawdd uchel a di-dor.
• Avid Media Composers ar gyfer chwarae yn ôl lluniau yn gydamserol, gan sicrhau cydweddiad manwl rhwng sain a delweddau.
• Mynediad i lyfrgell effeithiau sain lawn y ѿý ac archif gyfoethog o gynlluniau sain, wedi’u creu dros ddegawdau o waith golygyddol sain proffesiynol—adnodd amhrisiadwy ar gyfer creu profiadau sain sy’n awthentig i ymgolli ynddynt