Ar ben y byd Chwefror 2004 Bu'r flwyddyn 2003 yn un cofiadwy iawn i Nicky Parrot, gan iddo gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau er mwyn codi arian i elusen Marie Curie.
Yn ystod mis Mai rhedodd yn Marathon Llundain ac yna ym mis Hydref aeth ar daith anturus i Periw.
Cwblhaodd y cyfan ac o ganlyniad mae coffran Marie Curie £3,700 yn gyfoethocach. Ardderchog wir.
Ar hyn o bryd mae Nicky yn gweithio i gwmni teledu yn Norwich ac yn gwneud cyfrif da ohono'i hun. Llongyfarchiadau iddo ar gwblhau'r dasg anferthol hon a phob dymuniad da iddo i'r dyfodol.