Dydd Ian 5ed. Tachwedd oedd dyddiad cychwyn arbrawf ŵyn hyrddod Cymdeithas Defaid Mynydd Ceredigion.
Daeth 16 o aelodau a 35 o ŵyn hyrddod i'r arbrawf yn Ffald Penpompren, Talybont, a bydd rhain yn cyd-bori ar borfa'n unig ar fferm John Morgan, ÃÛÑ¿´«Ã½ Farm Bronwylfa ger Wrecsam tan ganol mis Ebrill.
Cyflwynir Tarian Rhosgoch i'r oen hwrdd mwyaf addawol, gyda'r aelodau sy'n cymryd rhan yn dyfarnu 3 phwynt i'r gorau, 2 bwynt i'r ail ac un pwynt i'r trydydd.
'Roedd y gystadleuaeth yn uchelradd a'r buddugol yn cael 25 pwynt a'r ail 20 pwynt. :
Rhif tag y pencampwr 5902, wedi ei fridio gan Dafydd Jones Ceiro, Ponterwyd, a'r ail 4639, wedi ei fridio gan Gymdeithas C.A.M.P Pwllpeirian.
Gofynnais i Dafydd beth oedd tu ô1 i'r llwyddiant a dyma'r ateb: "Prynu hwrdd o Glanrafon, Talybont rhai blynyddoedd yn ô1 a hwnnw yw tad-cu 5902. Ef hefyd oedd tad yr hesben a gafodd y pencampwriaeth yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn 2008, hwrdd yn bridio'n dda."
Bydd yr ŵyn yn cael eu pwyso ar ô1 setlo i lawr, a hefyd ar ddiwedd y prawf, gan swyddogion H.C.C. a dau neu dri o'r perchnogion.
Bryd hynny, cewch ddarllen yr hanes yn llawn yn Y DDOLEN.
 |