ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 09 Gorffennaf 2006
Yr Eidal yn ennill Cwpan y Byd o'r smotyn

Yr Eidal gipiodd Cwpan y Byd 5-3 ar giciau o'r smotyn wedi'r gêm orffen yn gyfartal 1-1, ond cafwyd eiliad o walltgofrwydd yn yr amser ychwanegol wrth i Zinedine Zidane gael ei hel o'r maes.


PRIF DDIGWYDDIADAU

Ciciau o'r smotyn

Rhwydodd Fabio Grosso â phumed cic Yr Eidalwyr i ennill Cwpan y Byd i'r Eidal.
Yr Eidal 5-3 Ffrainc

Llwyddodd Willy Sagnol i gadw gobeithion prin Ffrainc yn fyw
Yr Eidal 4-3 Ffrainc

Mae Alessandro Del Pieroyn rhwydo â phedwerydd cic yr Eidalwyr
Yr Eidal 4-2 Ffrainc

Rhwydodd Eric Abidal i gau'r bwlch
Yr Eidal 3-2 Ffrainc

Mae Daniele De Rossi' yn rhoi'r Eidal ymhellach ar y blaen.
Yr Eidal 3-1 Ffrainc

David Trezeguet yw'r cyntaf i fethu wrth i'w ergyd daro'r trawst a dod i lawr ar yr ochr anghywir o'r llinell.
Yr Eidal 2-1 Ffrainc

Marco Materazzi sydd nesaf i'r Eidal ac er i Fabien Barthez fynd y ffordd cywir, roedd y gic yn rhy gryf
Yr Eidal 2-1 Ffrainc

Sylvain Wiltord yn dod â Ffrainc yn gyfartal â chic grymus
Yr Eidal 1-1 Ffrainc

Andrea Pirlo sydd i gymryd y gic cyntaf o'r smotyn ac mae'n rhwydo'n hawdd wrth i Fabien Barthez fynd y ffordd anghywir
Yr Eidal 1-0 Ffrainc

120 mun: Sgôr Terfynol - Yr Eidal 1-1 Ffrainc
Bydd angen ciciau o'r smotyn wedi'r ddau dîm orffen y gêm yn gyfartal o ran goliau, ond mae amheuaeth petai Ffrainc yn ennill os bydd gan Zinedine Zidane yr hawl i godi'r tlws.

118 mun: Gyda'r gêm yn prysur ddirwyn i ben a phawb yn meddwl am giciau o'r smotyn, methodd Sylvain Wiltord â chroesi'r bêl ar draws wyneb y gôl wedi rhediad hyfryd i'r cwrt cosbi.

115 mun: Mae'r 20 munud olaf yn llawn tensiwn ond mae pawb wedi eu synnu ag ymateb Ziinedine Zidane i wawdio Marco Materazzi.

109 munud: Cerdyn Coch - Zinedine Zidane
Mae Zinedine Zidane wedi colli ei ben yn llwyr wrth iddo benio Marco Materazzi yn ei frest ac mae'n ddiweddglo trist i yrfa rhyngwladol un o chwaraewyr gorau'r byd wrth i'r dyfarnwr ei hel o'r maes wedi trafodaeth â'r pedwerydd swyddog.

106 mun: Mae Ffrainc yn defnyddio eu heilydd olaf wrth i Sylvain Wiltord ddod i'r maes yn lle Thierry Henry.

Hanner Amser - Amser Ychwanegol: Yr Eidal 1-1 Ffrainc

103 mun: Cafodd Zinedine Zidane ei hun yn rhydd yn y cwrt cosbi ond roedd ei beniad yn uchder cyfforddus i Gianluigi Buffon ei harbed.

100 mun: Dyna oedd cynnig olaf Franck Riberry wrth i David Trezeguet ddod i'r maes yn ei le. Mae Riberry yn cadw at draddodiad y Ffrancwyr o ysgwyd llaw â phob aelod o'r fainc wedi iddo ddod oddi ar y cae.

99 mun: Tarodd Franck Riberry fodfeddi heibio'r postyn wedi cyd chwarae hyfryd rhwng Riberry a Florent Malouda

94 mun: Disgynodd Florent Malouda yn ddramatig o dan bwysau gan Gennaro Gattuso ar ochr cwrt cosbi'r Eidal ond nid oedd y dyfarnwr eisiau clywed ei apêl am gic rhydd.

93 mun: Mae Zinedine Zidane a'i esgidiau aur yn rheoli'r chwarae yn y munudau agoriadol o'r amser ychwanegol.

Sgôr Terfynol: Yr Eidal 1-1 Ffrainc
Mae angen amser ychwanegol wedi'r ddau dîm orffen y 90 munud yn gyfartal.

82 mun: Mae'r ddau dîm yn ymwybodol mai'r gôl nesaf all ennill Cwpan y Byd ac maent yn nerfus iawn o ildio'r gôl yna.

76 mun: Crymanodd Andrea Pirlo gic rhydd hyfryd fodfeddi heibio'r postyn chwith o tua 25 llath wrth i Fabian Barthez frysio ar hyd y llinell gôl.

70 mun: Am ryw reswm mae Ffrainc yn ergydio o bell, sydd ddim yn trafferthu Gianluigi Buffon rhyw lawer.

64 mun: Mae'r chwarae yn mynd o un pen i'r maes i'r llall wrth i Luca Toni fethu cyfle un pen cyn i Alou Diarra daro ergyd heibio'r postyn yn y pen arall.

63 mun: Casglodd Thierry Henry pas Claude Makelele yn y cwrt cosbi ond roedd Buffon yn effro a llwyddodd y golwr i arbed yn dda.

61 mun: Roedd Luca Toni yn credu iddo roi'r Eidal ar y blaen ond roedd y llumanwr yn nodi ei fod yn camsefyll.

60 mun: Mae Marcelo Lippi yn dewis dod â dau eilydd i'r maes wrth i Vincenzo Iaquinta a Daniele De Rossi gymryd lle Francesco Totti a Simone Perotta

55 mun: Mae Patrick Vierra yn gorfod gadael y maes ag anaf i linyn ei âr. Alou Diarra sydd yn cymryd ei le.

52 mun: Roedd angen tacl dda ar Florent Malouda wedi gwaith da gan Franck Riberry a Zinedine Zidane wrth i Les Bleus ymosod a chreu problemau lu ar ddecharu'r ail hanner.

51 mun: Tra bo'r Azzurri yn cadw llygaid barcud ar Zinedine Zidane, mae Thierry Henry yn cael modd i fyw ar ddechrau'r ail hanner i Ffrainc.

49 mun: Mae'n amlwg bod Thierry Henry ar dân yn yr ail hanner wrth iddo ddawnsio'n gelfydd trwy amddiffyn Yr Eidal am yr ail dro mewn tri munud ond roedd Gianluca Zambrotta yno i rwystro ei groesiad rhag cyrraedd Franck Riberry.

46 mun: Dawnsiodd Thierry Henry trwy'r amddiffyn ar ddechrau'r ail hanner ond methodd â tharo ergyd lân.

HANNER AMSER: Yr Eidal 1-1 Ffrainc

44 mun: Mae'r Eidal yn marcio Zinedine Zidane mor dyn fel na all capten Les Bleus ddylanwadu ar y chwarae o gwbl.

42 mun: Carlamodd Fabian Barthez allan o'i gôl i ddwyn y bêl wrth i Simone Perotta redeg tua'r gôl.

41 mun: Am ryw reswm, mae'r dorf yn gwenud y don Fecsicanaidd, er bod y gêm yn hynod ddifyr!

40 mun: Gwnaeth Thierry Henry yn dda i guro'r amddiffynnwr ar yr asgell dde ond methodd â chanfod Patrick Viera yn y cwrt cosbi.

35 mun: Roedd angen tacl wych gan Lilian Thuram wrth i Luca Toni gasglu pas gelfydd ar ochr y cwrt chwech ac o'r cic gornel, tarodd Toni'r bar â pheniad grymus arall. Mae Ffrainc yn ei chael yn anodd i amddiffyn ciciau cornel Andrea irlo.

30 mun: Ymddengys fod Yr Eidalwyr wedi dod dros y sioc gynnar o ildio gôl gyda Fabio Cannavaro yn dechrau rheoli'r chwarae a chychwyn symudiadau o'r amddiffyn i'r Azzurri.

28 mun: Llwyddodd Marco Materazzi i esgyn unwaith eto yng nghwrt cosbi Les Bleus a phenio cic gornel Andrea Pirlo ond y tro hyn, roedd Lilian Thuram yno i glirio'r bêl.

19 mun: Gôl - Yr Eidal 1-1 Ffrainc
Llwyddodd Marco Matterazzi i wneud yn iawn am lorio Florent Malouda ac ildio'r gic o'r smotyn wrth i gyn chwaraewr Everton esgyn yn uwch na phawb i benio cic gornel Andrea Pirlo i gefn y rhwyd.

13 mun: Chwipiodd Andrea Pirlo gic rhydd i gwrt cosbi'r Ffrancwyr ac roedd angen i Lilian Thuram fod yn effro i glirio'r perygl.

10 mun: Mae'r gôl gynnar yn eu herbyn yn golygu bydd rhaid i'r Eidal ymosod a'r gobaith yw byddent yn chwarae fel y tîm drechodd Yr Almaen yn y rownd gynderfynol yn hytrach na thimau amddiffynnol, sinicaidd Eidalaidd y gorffennol.

7 mun: Gôl - Yr Eidal 0-1 Ffrainc
Rhwydodd capten Ffrainc, Zinedine Zidane o'r smotyn - er iddo wneud ei orau glas i fethu'r gic. Cododd y bêl yn hynod o hyderus o'r smotyn ac tharodd y bar cyn i'r bêl ddod i lawr dros y llinell.

1 mun: Pryder i'r Ffrancwyr yn y funud gyntaf un wrth i Thierry Henry orfod derbyn triniaeth am yn hir wedi iddo ef a Fabio Cannavaro daro i fewn i'w gilydd.

TIMAU

Yr Eidal: Buffon, Zambrotta, Cannavaro, Materazzi, Grosso, Camoranesi, Pirlo, Gattuso, Perrotta, Totti, Toni.

Eilyddion: Amelia, Barone, Barzagli, De Rossi, Del Piero, Gilardino, Iaquinta, Inzaghi, Nesta, Oddo, Peruzzi, Zaccardo.

Ffrainc: Barthez, Sagnol, Thuram, Gallas, Abidal, Ribery, Vieira, Makelele, Zidane, Malouda, Henry.

Eilyddion: Boumsong, Chimbonda, Coupet, Dhorasoo, Diarra, Givet, Govou, Landreau, Silvestre, Trezeguet, Wiltord.

Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)

TRIFIA

Mae'r Eidal a Ffrainc wedi wynebu ei gilydd bedair gwaith yng Nghwpan y Byd gyda'r ddau dîm yn ennill dwy gêm yr un.

Ym 1938, llwyddodd Yr Eidal i drechu Les Bleus yn rownd yr wyth olaf o'r bencampwriaeth ar y ffordd i ennill y tlws ym Mharis.

Ym 1978 llwyddodd Yr Eidal i ennill 2-1 yng ngêm agoriadol y grŵp, er i Bernard Lacombe roi'r Ffrancwyr ar y blaen yn y funud agoriadol.

Ym 1986 llwyddodd Ffrainc, o dan arweiniaeth Michel Platini, i drech'r Azzurri, yn yr ail rownd ym Mecsico ac ym 1998, llwyddodd y Ffrancwyr i ennill ar giciau o'r amotyn wedi gêm ddi-sgôr yn rownd yr wyth olaf.

Y tro diwethaf i bedwar tîm o Ewrop gystadlu yn y rownd gynderfynol oedd 1982 - y flwyddyn llwyddodd Paolo Rossi i ysbrydoli'r Azzurri i'r bencampwriaeth.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý