ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Derbyn Cymrawd newydd

31 Gorffennaf 2007

R Alun Evans

R Alun Evans yw'r diweddaraf i dderbyn anrhydedd uchaf yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd cymrawd newydd yn cael ei urddo mewn seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol bnawn heddiw.

Ond ni fydd llwyfan y Brifwyl yn lle dieithr i'r cyn ddarlledwr, R Alun Evans, gan iddo fod yn arweinydd llwyfan nid yn unig yn y Genedlaethol ond yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen hefyd.

Bydd yn cael ei dderbyn yn Gymrawd gan lywydd llys yr Eisteddfod, D Hugh Thomas, am chwarter wedi pedwar o'r gloch cyn seremoni'r coroni.

Anrhydedd uchaf

Dyma'r anrhydedd uchaf y gall yr Eisteddfod Genedlaethol ei rhoi a chyda dim ond pum cymrawd yn bosibl ar unrhyw un adeg bydd R Alun Evans yn ymuno ag Aled Lloyd Davies, Gwilym E Humphreys, James Nicholas ac Alwyn Roberts.

Cyflwynir yr anrhydedd fel cydnabyddiaeth o wasanaeth i'r Brifwyl dros gyfnod maith.

Yn y gorffennol bu R Alun Evans yn Llywydd Llys yr Eisteddfod ac yn Gadeirydd Cyngor yr Å´yl.

Yn frodor o Lanbryn-mair daeth yn un o ddarlledwyr mwyaf blaenllaw Cymru ar radio a theledu gan gyflwyno prif raglen nosweithiol y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ei dydd, Heddiw.

Dechreuodd ddarlledu yn 1955, pan oedd yn y Brifysgol ym Mangor, ond i'r weinidogaeth yr aeth cyn dod yn ddarlledwr llawn amser.

Fe'i hordeiniwyd yn weinidog eglwys Seion yr Annibynwyr yn Llandysul yn 1961 - yr un flwyddyn ag y priododd ef a Rhiannon Morris o Geredigion a oedd yn athrawes yn Sir y Fflint ar y pryd.

Eu merch yw Betsan Powys sy'n awr yn ohebydd gwleidyddol gyda'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yng Nghymru ac yn gyflwynydd y fersiwn Gymraeg o Mastermind.

Mae eu mab, Rhys, yn gyfarwyddwr rhaglenni teledu.

Sylwebydd cyntaf

Yn ystod ei yrfa ddarlledu R Alun Evans oedd y sylwebydd pêl-droed cyntaf erioed ar Radio Cymru.

Erbyn ei ymddeoliad, ef oedd pennaeth y ÃÛÑ¿´«Ã½ ym Mangor.

Wedi ymddeol dychwelodd yn fyfyriwr i'w hen goleg ym Mangor gan ennill doethuriaeth am ei astudiaeth o ddechreuad a datblygiad darlledu yn y gogledd.

Yn 2000 symudodd ef a Mrs Evans i fyw yng Nghaerdydd. Derbyniodd alwad y flwyddyn wedyn i fod yn weinidog eglwys Bethel Caerffili lle mae'n dal i fugeilio.

Mae'n awdur tri llyfr, un am y darlledwr arloesol, Sam Jones, un am enillwyr Y Rhuban Glas rhwng 1943 a 2000 a'r trydydd am Iorwerth C Peate yn y gyfres Bro a Bywyd.

Dechrau yn Sir y Fflint

Bu ei 'yrfa' eisteddfodol yr un mor gyfoethog â'i yrfa mewn darlledu.

"Fel mae'n digwydd, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint yn 1969 yr oeddwn i'n arweinydd llwyfan gyntaf erioed," meddai pan gyhoeddwyd gyntaf mai yn Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau eleni y byddai'n cael ei urddo'n Gymrawd.

"Dyma yr anrhydedd fwyaf y gall yr Eisteddfod ei chyflwyno i unrhyw un ac yn naturiol rwyf yn ei gwerthfawrogi'n fawr iawn," meddai.

Bu hefyd yn arweinydd yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen am chwarter canrif.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý