ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Cadeirio bardd y machlud

10 Awst 2007

T James Jones

Ffugenw yn dychryn trefnydd yr Eisteddfod

Yr un a gafodd y mwyaf o fraw pan dynnwyd enw bardd cadeiriol Eisteddfod yr Wyddgrug o'r amlen dan sêl rai wythnosau'n ôl oedd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards.

Ond dywedodd T James Jones na fwriadodd o gwbl i'w ffugenw, 'Un o ddeuawd', fod yn adlais o helynt Ianws yn Eisteddfod Genedlaethol 1979 pryd y bu'n rhaid iddo ildio'r goron wedi iddi ddod yn amlwg iddo gydweithio â bardd arall.

Ei ffugenw awgrymog y tro hwnnw oedd Ianws - y duw gyda dau wyneb.

Ond dywedodd nad oedd yn fwriad o gwbl ganddo i 'Un o ddeuawd' atgoffa neb o hynny.

"Ond rwy'n credu bod y trefnydd wedi cael ofon," meddai gyda Hywel Wyn Edwards yn cadarnhau i'r digwyddiad yng Nghaernarfon groesi ei feddwl yn syth.

"Ond does yna ddim adlais o gwbl na dim bwriadol. Chroesodd hwnnw ddim mo'n meddwl i," meddai T James Jones.

"Rhyw ddynion drwg eraill sy'n meddwl am hwnnw!"

Dilyn ei nai

Dywedodd hefyd nad oedd wedi rhannu ei gyfrinach tan fore heddiw, dydd y cadeirio, gyda'i nai, Tudur Dylan Jones, a enillodd y Goron ddydd Llun.

"Heddi cafodd e wybod - fel y cefais innau wybod ganddo ef fore dydd Llun. Fe ddaeth e ataf i, i roi ei gyfrinach ac medde fi, 'O, bendigedig' ond ddwedais i ddim am heddi achos roeddwn i eisiau talu'r pwyth yn ôl iddo fe," meddai.

Machlud lledrithiol

Wrth egluro'r cefndir i'w gerdd dywedodd:

"Cael profiad wnes i, un lledrithiol a dweud y gwir, o weld machlud ar Fynydd Epynt. Roedd Manon y wraig gyda fi ac roedd e mor hyfryd fe fu raid inni stopio'r car a dod mas ac fe fu yna ddeg munud o fachlud na wnawn ni'n dau byth ei anghofio.

Wedyn ymhen rhyw fis ar ôl hynny fe ddaeth llinell imi - llinell agoriadol y gerdd a dweud y gwir; 'Er rhoi'n coel ar Copernicus' ac o'r foment yna ymlaen fe ddechreuodd y gerdd dyfu.

"Yr oedd y profiade yma yn real iawn inni ond roedd dyn yn dechrau myfyrio wedyn fy mod i'n bwrw mlaen ys dwedon nhw, wedi cyrraedd oedran yr addewid a dechrau meddwl wedyn am fy machlud fy hun ac am fachlud, wrth gwrs, pethau a phersonau eraill o nghwmpas i ac mae'r rheini hefyd yn y gerdd.

"Ac wrth gwrs Fynydd Epynt yr oedd e ac mae'r hyn sy'n digwydd ar Fynydd Epynt yn rhywbeth erchyll ac yn rhywbeth dieflig yn fy marn ac maen nhw ar Fynydd Epynt yn medru dod a machlud cyn pryd i fywydau pobl fel sy'n digwydd yn Rhyfel Irac ar hyn o bryd - hwnna'i gyd oedd yn corddi."

Yn Ffrainc

Ond er mai machlud ar Fynydd Epynt barodd y cynyrfiadau cyntaf dywedodd mai wrth wylio machlud arall yn Ffrainc y daeth llinellau cyntaf ei gerdd.

"Ac fe gymeres i dipyn o amser wedyn dros rhyw dri mis i'w chwblhau.

Ac am wir arwyddocâd ei ffugenw 'Un o ddeuawd" dywedodd:
"Yr oedd fy ngwraig Manon gyda fi yn y profiad dechreuol ac wrth gwrs nawr gan fy mod yn wynebu y ffin eithaf rwy'n cymryd lot o gysur oddi wrth bartneriaeth ac yn diolch i'r drefen bod yna cwmni i'w gael i drafod pethau ac i wneud pethau.

"Ac rwy'n sôn yn y gerdd bod yna ddeuawd yn digwydd a bod hyd yn oed y ddeuawd yn dod i ben!
Ac nid peth pesimistaidd yw hynny ond peth real iawn sydd yn mynd i ddigwydd," meddai.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý