Aethpwyd â hi ar frys i ysbyty Alder Hey a gwnaed sawl prawf arni.
Darganfyddwyd bod canser ar y gwaed ac heb os nac onibai buasai yn rhaid iddi gael trawsblaniad mer yr esgyrn - heb hwn ni fyddai Anna gyda ni heddiw.
Ar ôl chwilio'n genedlaethol a lleol daethpwyd o hyd i rywun a fyddai'n barod i roi mer yr esgyrn i Anna.
Bu rhaid i Anna gael wythnos lawn o cimotherapi cyn cael y trawsblaniad. Roedd y misoedd nesaf yn anodd a phoenus iawn i ni fel teulu.
Ar ôl blwyddyn a hanner mae Anna yn well o lawer ac i ddathlu, gwahoddwyd hi i arwain Tîm Rygbi Cenedlaethol Cymru allan ar faes Y Mileniwm ar Chwefror 4 - Cymru yn erbyn Iwerddon.
Cawsom fel teulu amser bythgofiadwy gyda phawb, sef cyn chwaraewyr Cymru, Katherine Jenkins, Côr Froncysyllte, Gareth Jenkins, Stephen Jones a'r tîm i gyd.
Diolch i elusen Anthony Nolan, Undeb Rygbi Cymru a Coca Cola am ddewis Anna i fod yn 'fascot' am y diwrnod.
Diolchwn yn arbennig i bawb am eu cefnogaeth a'u caredigrwydd ar hyd y ddwy flynedd diwethaf, y llu o gardiau ac anrhegion a dymuniadau gorau at Anna a ni fel teulu, ac hefyd i elusen Clic Sargent Cymru a phob elusen cancr arall.
 |