ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
George ar y cwad efo rhai o'r helpars Haeddu medal
Hydref 2005
Tydi cadw trefn ar dros wyth mil o geir y dydd ddim yn hawdd. Ond chafodd hogia clwb pêl-droed Caernarfon ddim byd ond clod am eu gwaith yn arolygu meysydd parcio y Steddfod yn y Faenol.
Ac mi fysa George Denham, y Cadeirydd, yn licio diolch i bob un wan jac o'r hogia - dros 40 ohonyn nhw - helpodd i gyflawni'r dasg gan godi £9,000 i'r Caneris.

'Roedd hi'n wsnos galed,' meddai George "ond gawson ni lot o hwyl, a dwi'n ddiolchgar iawn i bawb."

Gofalai'r hogia am dri maes parcio ac roedd yr oriau yn hir ar brydiau. Ond roedd y Steddfod a'r Pwyllgor Technegol (a'r heddlu) yn hynod o fodlon efo'u gwaith.

Ac mae na ddynes 74 oed o'r De yn hynod o falch fod gan George cwad beic. Roedd hi'n methu'n glir a dod o hyd i'w char. O ganlyniad, un o olygfeydd difyrra'r meysydd parcio dros yr ŵyl oedd Dafydd Denham a gwraig dros ei deg a phedwar ugain ar y cwad yn gyrru rownd y Faenol yn chwilio am ei char. Daethpwyd o hyd i hwnnw yn ddidrafferth.

Nid felly gar gŵr nid anenwog o Gaernarfon. Gymrodd hi bedair awr i ffendio ei gar o. Roedd o'n chwilio yn y maes parcio anghywir!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý