ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Adam gydag un o'r cynrychiolwyr o Sri Lanka Neges i Adam
Mehefin 2005
Yn ddiweddar derbyniodd Gareth Edwards, tad Adam Stanley Edwards, ebost o Sri Lanka gan weinidog yn llywodraeth y wlad honno, Yr Anrhydeddus P. Rohitha Abeyguawardan.
Gair o ddiolch ydoedd i Adam, sy'n 6 oed, am y ffordd y cyflwynodd blac ac arno Arfbais Caernarfon iddo.

Dewisiwyd Adam gan y cyn-Faer Roy Owen, i gyflawni'r gwaith hwn ar ran plant Tref Caernarfon. Tynnodd y gweinidog amryw o luniau o Adam, a edrychai yn hynod smart mewn siwt, a mawr oedd ei edmygedd ohono am ei ymddygiad gydol y dydd pan dderbyniodd groeso dinesig yn y Castell. Roedd Adam hefyd i'w weld yn berffaith gysurus yng nghwmni'r ymwelydd pwysig o dramor.

Pwrpas yr ymweliad oedd i fynegi diolchiadau Sri Lanka i bobl tref Caernarfon am gyfrannu mor hael i'r gronfa a sefydlwyd yn dilyn trychineb y Tsunami ar ddydd Sant Steffan llynedd.

Gyda'r gweinidog oedd ei ymgynghorydd, Mr. S. N. Kumar, a'i gynorthwywr personol, Mr Roshar Akthar, ac yn cynrychioli'r sir a'r dref oedd: Cadeirydd Sir Gwynedd, Maer a Maeres Tref Frenhinol Caernarfon, ynghyd ag aelodau o'r Cyngor Tref a Chadeirydd Siambr Fasnach y Dref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý