ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Dan Groen y Ddrama

Yn yr arholiad llafar Uwch Gyfrannol Cymraeg bydd angen i chi:

  • drafod y ddrama mewn dyfnder
  • cyfeirio at olygfeydd penodol
  • defnyddio dyfyniadau
  • dod i gasgliadau aeddfed a threiddgar.

Ydych chi'n cytuno gyda'r gosodiadau canlynol? Pa enghreifftiau penodol o'r ddrama fyddech chi'n eu trafod er mwyn cyflwyno'r gosodiadau yn yr arholiad? Sut fyddech chi'n ehangu a datblygu eich atebion?

Ceir darlun cignoeth yn Y Twr sy'n dangos:

  • ein tueddiad i wisgo ryw fasg yn enwedig yn ein hieuenctid
  • yr elfen o dwyll ac o ragrith mewn cymdeithas yn arbennig yn yr ail act
  • ein diffyg gallu ni i gyfathrebu â’n gilydd. Hyn yn cael ei gyfleu yn yr act olaf wrth iÂ’r ddau fod mor awyddus i siarad, ond nid i wrando ar ei gilydd
  • galluÂ’r dramodydd i adleisioÂ’n grefftus yr hyn a ddywed cymeriad mewn un act drwy ei ail adrodd, gan amrywio arno, yn yr act nesaf. Gellir dadlau ei fod yn gwneud hyn er mwyn darlunio fel y maeÂ’r hanesyn yn newid yn nhreigl amser;
    e.e. ysfa’r gwr am ddyrchafiad a’i ymgais i ymuno â’r Seiri
  • cartref digrefydd ac aelwyd lle ceir llawer o wrthdaro rhwng y gwr aÂ’r wraig
  • nad oes ganddynt wir werthoedd, yn hytrach maent yn perthyn i fyd cystadleuol y dosbarth canol, pobl gystadleuol a phobl sy'n feirniadol o bawb a phob un
  • nad oes fawr o bwrpas yn eu bywydau gwag. Gan nad yw'n ymddangos fod llawr o bwrpas i'w bywydau, efallai bod y ddramaÂ’n trafod pwrpas bodolaeth dyn ar y ddaear
  • dyhead neu nod bywyd. Rheswm y llanc am ddod iÂ’r twr yw dringo iÂ’r top. Y twr yn cynrychioli bywyd a gall dringo iÂ’r top feddwl naill ai heneiddio a marw neu gyrraedd y brig yn y byd cystadleuol
  • absenoldeb cariad yn y briodas ac o ganlyniad ceir ffraeo dros bethau dibwys a rhwystredigaethau
  • gwirioneddau mawr am fywyd. Mae'r ystafell yn aros yn ddigyfnewid o act i act, y cymeriadauÂ’n heneiddio, ond eu hanian heb newid.
    "Run peth fydda iÂ… Run peth fyddi diÂ…"

    Beth am yr Iaith?

  • Rhythmau garw iaith lafar Deiniolen, iaith bobol gyffredin ysgrifennu weithiauÂ’n ffonetig sydd yn Y Twr:
    "Hidia befo be ddeudodd hi."
    "mi oedd hi di cachu bans ar neb i nhroi i."
    "Na ti rech Â’lyb os buo na un rioed"
    "Doedd o ddim yn mynd i wneud pric pwdin ohona i."
    "Y llipryn diawlÂ…Stwffia dy job medda fiÂ…Stwffia dy blydi job."

    A yw'r iaith yn cyfoethogi'r ddrama?

Cofiwch y bydd hawl gan yr arholwr holi:

  • am agwedd yr awdur at fywyd fel yÂ’i cyflwynir trwy ei waith lle bo hynnyÂ’n bwrpasol
  • am gynhyrchu golygfa. Dull ymarferol o wneud hynny fyddai holi pa gyfarwyddiadau fydden nhwÂ’n ei roddi i actorion mewn golygfa arbennig.

ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy