ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Cynllun Marcio yr Arholiad Llafar

Edrychwch ar y pwyntiau canlynol er mwyn gweld sut i ennill marciau yn yr arholiad llafar Uwch Gyfrannol.

Cofiwch fod yr arholiad llafar cyfan yn cyfrif am:

  • 40% o farciau yr Arholiad Uwch Gyfrannol Cymraeg
  • 20% o farciau yr arholiad Uwch.

Byddwch yn trafod y ddrama mewn grwp o flaen arholwr allanol, ac asesir eich defnydd o'r iaith lafar a'ch gallu i ymateb i'r testun.

Caiff marc o 10 ei neilltuo iÂ’ch defnydd o iaith lafar yn ystod yr arholiad a chaiff marc o 30 ei neilltuo iÂ’ch ymateb i'r ddrama - cyfanswm o 40 marc.

Defnyddiwch y meini prawf ar gyfer Gradd A neu Gradd C er mwyn penderfynu sut i wella eich perfformiad chi.

Gradd A Uwch Gyfrannol

Bydd disgwyl i chi ar radd A wrth ateb:

  • gydadweithio ag eraill yn aeddfed
  • ymestyn dadl yn ddeallus
  • ymateb ac ymresymuÂ’n berthnasol acyn gryno ac mewn dyfnder
  • arddangos adnoddau iaith cyfoethog
  • cyfleu syniadau a dadleuon cymhleth yn glir ac yn groyw
  • arddangos hyder a brwdfrydedd wrth fynegi barn a datblygu trafodaeth

Bydd rhaid ennill rhwng 8-10 marc am y defnydd o iaith lafar cyn ennill gradd A

Yn y cynnwys bydd angen i chi:

  • arddangos gwybodaeth drylwyr oÂ’r ddrama
  • crynhoi ffeithiau perthnasol yn effeithiol, eu cymhwyso aÂ’u cyflwynoÂ’n gydlynus
  • arddangos dealltwriaeth dda o gysyniadauÂ’r testun
  • dadansoddi a dehongliÂ’r testun yn dda
  • datblygu ac ehangu syniadauÂ’n drefnus a chydlynus
  • cyflwyno tystiolaeth drwy gyfeirio at olygfeydd perthnasol a defnyddio dyfyniadauÂ’n effeithiol
  • cyflwyno dadleuon gwreiddiol ac ehangu arnynt
  • dadansoddi arddull yn effeithiol a chyfeirio'n ddeallus at y technegau a ddefnyddir
  • defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn effeithiol

Bydd rhaid ennill rhwng 24-30 marc wrth ymateb i destunau cyn ennill gradd A

Ìý

Gradd C Uwch Gyfrannol

Bydd disgwyl i chi ar radd C wrth ateb:

  • gydadweithio ag eraill yn hyderus
  • llwyddo i gynnal dadl
  • ymateb yn berthnasol
  • arddangos gafael gadarn ar yr iaith lafar
  • cyfleu syniadau a dadleuon yn glir
  • mynegi barn a chyflwyno rhesymau yn gyson

Bydd rhaid ennill 5 marc am y defnydd o iaith lafar cyn ennill gradd C

Yn y cynnwys bydd angen i chi:

  • arddangos gwybodaeth oÂ’r ddrama gyda manylder ar adegau
  • crynhoi rhai ffeithiau perthnasol aÂ’u cyflwynoÂ’n gywir
  • arddangos dealltwriaeth foddhaol o gysyniadauÂ’r testun
  • dadansoddi a dehongliÂ’r testun yn foddhaol
  • datblygu ac ehanguÂ’r prif syniadauÂ’n drefnus
  • cyfeirio weithiau at olygfeydd perthnasol a defnyddio dyfyniadau addas
  • trafod agweddau ar arddull a chyfeirio at dechnegau a ddefnyddir.
  • defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn eithaf cyson

Bydd rhaid ennill rhwng 15-19 marc, wrth ymateb i destunau, cyn ennill gradd C

ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy