

Clustfeinio ar yr
Arholiad Llafar
1. Sut rydych chiÂ’n ymateb iÂ’r
olygfa garu ar ddechrauÂ’r Act Gyntaf?
Hefyd, ystyriwch y pwyntiau crynhoi canlynol a dewch i gasgliadau:
- Gwraig aÂ’r reddf famol yn gryf ynddi
yw mam y llanc ac nid yw am iddo dyfu nac am ei golli iÂ’r ferch. Hyn syÂ’n esbonio efallai pam
ei fod ef yn ystyried rhyw fel peth budr. Canlyniad hyn yw fod y ferch yn ei wawdio aÂ’i annog i fynd
adref i gysgu gydaÂ’i fam
"Gysgi di hefo neb arallÂ…"
"A tasat ti, fasat ti ddim yn gwbod be i neudÂ…"
"Dw i ddim yn meddwl bod gin ti un hyd yn oed."
Ei ymateb ef yw rhoi clustan iddi ar draws ei boch.
- Y trais geiriol a chorfforol yn dangos
nad oes fawr o gariad rhwng y ddau. Y ferch am fodloni ei blys corfforol ei hun ac anwybyddu ofnauÂ’r
bachgen. Ef ar y llaw arall yn meddwl am ei ofnau heb ystyried ei hanghenion hi. Adeg y storm yn ei hofn
aiff iÂ’w freichiau. Maent yn cydio yn ei gilydd nifer o weithiau yn y ddrama, ond gellir dadlau mai
gweithred arwynebol ydyÂ’r cydio.
- Mwynhad y funud syÂ’n bwysig iddyn
nhw ac nid yw'r cydio yn dynodi cariad. Maen nhwÂ’n parhau i gweryla wrth iddo ef ei chroesholi am
ei phrofiadau rhywiol cynt, syÂ’n dangos ei eiddigedd, ei genfigen aÂ’i hunanoldeb.
- Nid ywÂ’r llanc yn gallu trin a thrafod
y dyfodol gydaÂ’r ferch, ias a chyffroÂ’r presennol syÂ’n bwysig iddo ef. Hoffa feddwl ei
fod yn feistr ar ei ffawd ei hun.
- Darlunir y gagendor rhwng y ddau yn yr
ail act wrth iddi hi hel atgofion am eu mab Gwyn, ond nid yw ef yn gwrando, yn hytrach maeÂ’n ymboeni
am ei adroddiad ar Rio Tinto.
- Ni ddiflannodd y gwrthdaro rhyngddynt
yn y drydedd act chwaith.
"Wnest ti erioed alw ‘cariad’ arna i."
Cwestiwn arall:
Ìý
|