ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Ysgrifennu Creadigol - Creu Portread

Lluniwch bortread manwl o un o'r cymeriadau yn Y Twr.

Cofiwch, bydd angen i chi:

  • ddod â’r cymeriad yn fyw yn eich gwaith
  • dewis a dethol yr hyn a wnaeth y cymeriad, gan ddewis y rhai pwysicaf a dangos eu harwyddocâd
  • cyfleu yr hyn sydd ymhlyg yng ngeiriauÂ’r cymeriad a dewis y rhai mwyaf arwyddocâol
  • treiddio i mewn i feddwl y cymeriad a dod â’i bersonoliaeth yn fyw yn y portread
  • dadansoddi cryfderau a gwendidauÂ’r cymeriad
  • cyfleu yr hyn sydd yn bwysig iddo mewn bywyd
  • sicrhau bod datblygiad yn y portread

Efallai y gellwch gasglu gwybodaeth am ei arferion a hyd yn oed ei bryd a gwedd, gan ddefnyddio eich dychymyg i gwblhauÂ’r darlun.

Ìý

Ateb Enghreifftiol

Portread - Y Ferch yn y ddrama (detholiad o'r gwaith)

O dan yr holl hyder a'r siarad swrth, mae hi'n gallu bod yn ansicr ac yn gallu teimlo o dan fygythiad. Efallai mai dyma pam y cyhuddodd hi y llanc o gael affair. Efallai hefyd mai dyma'r rheswm pam y cafodd hi rai breuddwydion amheus:

"Ro'n i’n rhedeg trwy'r cae þd ’ma ar ôl iâr fach yr ha…Weithiau o’n i’n ei cholli hi…ond yn fuan iawn yn dwad o hyd iddi bob tro... dyma fi'n ei gweld hi. O'dd hi wedi glanio ar wyneb y person ma... A dyma fi’n 'mestyn amdani'n ara bach... ac mi ces i hi..., o'n i'n teimlo hi'n cosi cledar ’y llaw, ond... fedrwn i ddim tynnu nwylo ata'n nôl. A dyna pryd ddigwyddodd o mi rois i un plwc sydyn a mi ddaeth croen un ochr i gyd yn rhydd... plisgio i ffwrdd nes oedd yna ddim byd ar ôl ond esgyrn coch... a thylla gwag du."

Mae gan y freuddwyd yma arwyddocâd arbennig. Efallai fod yr iâr fach yr ha yn symbol o bethau o fewn ei bywyd. Ei bod trwy gydol yr amser yn cwrso rhywbeth; rywbeth newydd, rhywbeth mwy, rhywbeth gwell ond pan o'r diwedd y daw o hyd iddo mae’n troi’n chwerw. Yn ogystal â hyn mi all yr wyneb fod yn arwydd o'r bobl sy'n rhan o'i bywyd hi. Y bobl yr oedd hi yn eu caru ac yn ymddiried ynddynt, ond eto mae’n darganfod eu bod nhw'n ddau wynebog fel rhywun yn gwisgo mwgwd. Gallent hefyd fod yn symbol o'r bobl y mae'n eu caru sydd wedi ei gadael hi, a'r enghraifft fwyaf amlwg o hyn yw ei mam. Efallai ei bod hi'n poeni y byddai'r un peth yn digwydd i'r llanc.

"Mae merch yn gwybod yn reddfol sut a be i wneud - amgenach na dyn"

Cred fod hyn yn wir nid yn unig wrth ymwneud â materion rhywiol ond hefyd gall synhwyro pryd ydyw'r amser cywir i adael yr ystafell yn y twr, pryd i symud ymlaen i gyfnod arall, cyfnod mwy datblygedig o fewn eu bywydau. Dwed yn aml:
"Dyma'n hamser ni"
DefnyddiaÂ’r grisiau hefyd er ei mantais ei hun, er mwyn cael rheolaeth dros y llanc ac er mwyn bod mewn sefyllfa o bwer. Cred mewn rhai o ofergoelion ei mam; arferion fel troi pob drych tuag at y wal pan fydd storom. Mi allai hi hefyd gael ei dylanwadu gan erthyglau papur newyddion byd eang. Dyna'r rheswm y stopiodd hi gymryd y bilsen oherwydd iddi ddarllen y gallai fod yn niweidiol iÂ’r corff gan achosi afiechydon, a chanlyniadau hyn oedd iddi ddarganfod ei bod yn feichiog.
MaeÂ’n amlwg ei bod hi'n ferch hynod o emosiynol ac egwyddorol a chafodd hyn ei gyfleu wedi iÂ’r llanc glywed ei bod yn feichiog ac roedd am iddi gael erthyliad. Gwrthododd.

Barn yr Arholwr

Cynnwys
Dangosodd y gallu i:

  • greu darlun clir oÂ’r cymeriad
  • dod â’r cymeriad yn fyw drwy fynd o dan ei groen
  • dangos yr hyn sydd ymhlyg yng ngeiriauÂ’r cymeriad
  • datblyguÂ’r portread

Iaith ac Arddull
Dangosodd y gallu i ddefnyddio:

  • arddull portread
  • tafodiaith y cymeriad wrth gynnwys deialog neu ddyfyniad oÂ’i eiddo
  • iaith grefftus a chywir

Ìý

ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy