ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Ysgrifennu Creadigol - Cyfres o Ymsonau

Lluniwch gyfres o ymsonau un o'r cymeriadau yn y Twr, sy'n adlewyrchu'r gwahanol gyfnodau ym mywyd y cymeriad.

Cofiwch, bydd angen i chi:

  • dreiddio i mewn i feddwl y cymeriad a dod â’i bersonoliaeth yn fyw yn yr ymson drwy ei eiriau neu ei geiriau
  • eich bod yn datgelu teimladau dyfnaf y cymeriad
  • dangos y gwrthdaro rhyngddo â’r cymar arall
  • cyfleu yr hyn sydd yn bwysig iddo neu iddi hi mewn bywyd
  • ystyried cyflwyno cyfres o ymsonau aÂ’u gosod ynghanol y golygfeydd pwysicaf er mwyn dangos eu harwyddocâd
  • sicrhau bod datblygiad yn yr ymsonau
  • defnyddioÂ’r person cyntaf e.e. y rhagenwau ‘fyÂ’ a ‘fiÂ’ a hefyd berfau fel ‘Dw iÂ’ a ‘Cerddes iÂ’

Ìý

Ateb Enghreifftiol

Peth braf yw bod yn ifanc, yn gallu rhedeg i fyny'r grisiau. Ydw, dw'i yma... o'r diwadd, dw'i yma yn y twr. Dw'i mor hapus ac yn llawn cariad tuag ato fo... "Be tasa rhywun yn dwad?" 0, be' sy'n bod arno fo? Pam na fedrith o ymlacio ychydig... i 'ngharu i? A phwy fydde'n dod yma ta beth? Pam na wneith o fel dw i'n dweud wrtho i wneud? Fi sy'n rheoli'r sefyllfa yma, a neb arall.
BANG! 0 na! Storm! Dw i'n casáu storm. 0, dw'i am fynd adra... "Di stormydd
ganol ha byth yn para'n hir", medda fo. 0, diolch byth ei fod o yma. Dw i'n teimio'n ddiogel rwan. Edrychith o ar f ’ôl i. Neith o ddim dweud celwydd wrtha i. Ddim fel fi a mam... yn dweud celwydd... yn chwara’r gêm... yr holl ffordd tan y diwadd. Dweud wrthi fod popeth yn iawn... y gallwn fynd ar wylia'r ha nesa, ond yn gwybod y bydda hi ddim yma ha' nesa. Ond ddim fel 'ny fydd hi efo fo! Dim twyllo!

* * * * * * * * * *

0, Ile mae o? Tri chwartar awr yn hwyr. Gyda'r ast. Sali Pritchard eto? 0, mi gaiff o bryd o dafod pan ddaw o adra...
"Sali Pritchard... ddudodd hi ddim mo'r stori arall debyg?" medda fo
0, sut allwn i fod wedi bod mor dwp? Doedd ganddo fo ddim diddordab ynddi hi ... TRÊN! Ma' rwbath neis mewn swn trên... yn bell yn y nos... swn trên yn llawn o bobl ifanc yn mynd ar anturiaethau...

"Pwy ddysgodd di?" Y? Be mae'r twpsyn 'ma'n 'i ddweud rwan? Be' maÂ’ nhwÂ’n ddeud am nyrsys? Be' sy'n bod ar y dyn yma? ... Be' o'dd hwnna? Dyna'r swn eto. Yn dod o gyfeiriad y grisiau... Pam 'dan ni yma?... 0 ble duthon ni?... 0, dyma fo'n cwyno eto, ond ma'n rhaid i ni fynd i fyny ryw dro on'd oes? Dw i'n disgwl ei fabi, mae o 'di addo trafod, ond mae o lawar rhy hwyr i hynny. Ma'r babi yma'n rhan ohona i, ac mae'n rhaid i ni ddringo'r grisiau troellog yma. Dringo gyda'n gilydd.

* * * * * * * * * *

"Welis i'r rioed darth yma o'r blaen"... Na finna... Dw i'n gwybod taw arwydd yw hyn fod rhaid i mi ei adael o fynd... ond ddim rwan! Rwy'n ei garu o ormod. Cheith o ddim mo 'ngadael i ! Mae'n gorwedd yn y gwely yna mor ddifywyd a llwyd. Ei fywyd yn cael ei sugno ohono fo. Ei getyn yn diffodd. Rwy’n casáu hyn... casáu gwylio'r fflam fach o fywyd yn diffodd, wrth i mi ei fwydo... fel babi! "0... yn bendant cyn yr ha'"... a dyma fi eto’n chwara’r gêm, yn cuddio'r gwir wrtho, wrth sôn am fynd i Toromolinos ha' nesa. Ma' bywyd mor greulon!
"Dim ond grisia, falla... dringo am byth"... ond ma' bownd o fod gwobr on'd oes? Ma' rhaid bod rwbath i'w gael!... 0 diar, mae'n cael pwl gwael o beswch. Rwy’n casáu gwylio rhywun yn diodda ond yn methu gwneud dim amdano... "Dim iso diodda... myta'n fyw"..."Injection". ... Addewid yw addewid, a dw'i ddim iso diodda yn ei weld o'n diodda... mi fydd popeth yn well... ie, cysga di, cysga di 'nghariad i!

Barn yr Arholwr

Cynnwys:
Dangosodd y gallu i:

  • greu darlun clir oÂ’r cymeriad fel person ifanc / canol oed / hen
  • dod â’r cymeriad yn fyw, mynd o dan ei groen ac uniaethuÂ’n llwyr ag ef
  • cyfleu teimladau dyfnion y cymeriad
  • datblyguÂ’r ymson

Iaith ac Arddull:
Dangosodd y gallu i ddefnyddio:

  • arddull ymson a thafodiaith y cymeriad
  • person cyntaf y ferf ‘dw i, welais iÂ’ aÂ’r rhagenw ‘fiÂ’
  • iaith grefftus a thafodieithol gywir

Ìý

ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy