ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Dringo GrisiauÂ’r Twr

Atgofion disgybl ac actor: John Ogwen yn cofio pregethwr, arlunydd a dramodydd

Gris gyntaf y twr - efo Donald Duck

Naw oed oeddwn i pan wnes i gyfarfod Gwenlyn am y tro cynta. Pnawn Sul oedd hi. Roedd ei dad, W. J. Parry, yn cael te yn ein ty ni. Y Sul arbennig hwnnw yr oedd Wesleaid Cylchdaith Ardal Bethesda a Deiniolen yn cynnal eu Cymanfa flynyddol yn Sling.

Fel dau Wesla o Ddeiniolen yr oedd Gwenlyn aÂ’i dad yn bresennol.

Doedd yna ddim caffi o fewn pedair milltir i Sling, felly, bwyta yn nhai cyd-Wesleaid oedd y drefn.

Fel dau chwarelwr - fy nhad yn y Penrhyn a thad Gwenlyn yn Ninorwig - a dau Wesla yr oedd yn naturiol mai acw y daeth Mr Parry aÂ’i fab "am ymborth" chwedl y pen blaenor.

Ar ôl bwyd, pan ddechreuodd y ddau dad ‘siarad chwaral’ aeth y plentyn nawmlwydd yn anniddig a phenderfynodd Gwenlyn - tua phedair ar bymtheg fasa fo - ei ddiddori drwy wneud lluniau efo fo.

Roedd oÂ’n dipyn o arlunydd ac efo pensilau lliw gwnaeth lun ardderchog o Donald Duck.

BuÂ’r llun hwnnw gen i am flynyddoedd ar wal fy llofft.

Dyna’r diwrnod y rhois fy nhroed ar ris gyntaf ‘Twr’ fy adnabyddiaeth o Gwenlyn ac efo’r llun a’r cof am ei chwerthiniad yr oedd honno’n ris gadarn i ddechrau’r dringo.

Ail ris y twr - pregethwr ar brawf

Aeth pum mlynedd heibio cyn i mi gael rhoi fy nhroed ar yr ail ris a hynny drwyÂ’r Wesleaid eto.

Yr oedd Gwenlyn bellach yn ‘bregethwr cynorthwyol’ gyda’r enwad a minnau yn bwt o organydd yng nghapal Gorphwysfa.

Ar gerdyn ‘plan’ blwyddyn y Wesleaid lleol rhif 35 oedd W. Gwenlyn Parry yn rhestr y pregethwyr ac ar ôl ei enw yr oedd y geiriau "Ar brawf" mewn cromfachau!

Tybed â oedd y ddau air yna yn awgrymu i’r dramodydd feddwl mynd i’r weinidogaeth?

Yr oedd yn hawdd iawn gwrando arno y diwrnod hwnnw. Wedyn y dois i ddeall fy mod yn gwrando ar ddeudwr stori penigamp.

Trydedd ris y twr - y ‘big break’

Ychydig feddyliais yr adeg honno y byddai’r dyn Parry yma yn chwarae rhan mor allweddol yn fy mywyd a’m gyrfa, ond pan sefais ar drydedd ris y ‘Twr’ yr oedd rhyw awgrym bach o hynny.

Daeth Gwenlyn i ddysgu gwyddoniaeth i ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, pan oeddwn i yn y chweched.

Yr oedd cwmni drama yn yr ysgol a buan y daeth Gwenlyn i gymryd yr awenau.

Ysgrifennodd basiant Pasg aÂ’m castio i fel y Crist. Hyd y diwedd buÂ’n tynnu fy nghoes mai fo roddodd y "big break" imi!

Fo hefyd gynhyrchodd Gymerwch Chi Sigaret a’m castio fel Phugas. Ar ôl i ni berfformio yn hynod o lwyddiannus i’n cyd-ddisgyblion gwrthododd y prifathro roi caniatâd inni berfformio i’n rhieni achos, yn ei farn o, fod y ddrama yn "rhy aflednais".

Fel y dywedodd Gwenlyn, "Yr unig foi ‘rioed i sensro Saunders Lewis!"

Bu fy nghysylltiad ag o wedyn yn un hir a hapus.

Dipyn o foi oedd y Wesla o arlunydd a dramodydd.

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddramâu
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Llên

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy