ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Y Cyhoedd yn Cofio

Beth yw'ch atgofion chi o Gwenlyn Parry? Oeddech chi yn yr ysgol neu'r coleg ag o? Oes gennych chi stori i'w rhannu â'r genedl?

Darllenwch yr atgofion canlynol ac ebostiwch eich cofion personol a'ch lluniau o Gwenlyn atom.

Enw:
Llynwen Griffith (Nith)
Lleoliad:
Bethesda
Agtofion:

Pan oeddwn yn fach, 'rwyf yn cofio mynd i ty fy ewyrth a cerdded i mewn i'r gegin, a dyma'r llais yma yn dod o'r oergell, yn gofyn beth oedd fy enw, lle oeddwn yn byw, os oeddwn yn ferch dda, ac yn y blaen. Roeddwn wedi dychryn, y peiriant mawr yma yn siarad a mi, ond roeddwn yr un mor wirion, fe wnes ei ateb yn ôl heb feddwl, a dyna lle roedd y rhewgell a fi yn cael sgwrs! Roedd fy ewyrth yn gymeriad arbennig, roedd fel tad i mi, ac mae gennyf hiraeth mawr ar ei ôl.

-----------------------------------------------------------------------
Enw:
Ifan Wyn Evans
Lleoliad:
Deganwy
Agtofion:

Roeddwn i'n yr ysgol a'r Coleg Normal efo Gwenlyn, a dwi'n ei gofio fo'n gwneud sawl peth digri. Mi fydda'n mynd i Woolworth ym Mangor a gofyn i ferch ddiniwad wrth y cowntar am bethau gwirion fel criau wellingtons neu chwart o law tarannau! Ond un o'r pethau doniola dwi'n 'i gofio fo'n wneud oedd cerdded lawr stryd ym Mangor fel petae o'n arwain ci. Roedd o mor dda am wneud hynny nes fod ambell i gerddedwr yn cerdded rownd y ci dychmygol!

-----------------------------------------------------------------------
Enw:
Hafina Clwyd
Lleoliad:
Rhuthun
Agtofion:
Roeddwn i'n eistedd efo Gwenlyn yn stondin Cymry Llundain rhyw steddfod wlyb tua dechrau'r 70au, pan gerddodd Rhydderch Jones i mewn yn gwisgo Pac-a-mac fawr o'i ben i'w draed. Wna i byth anghofio beth ddywedodd Gwenlyn - "Iesu, Rhydd, ti'n edrych fel condom anferth"!
-----------------------------------------------------------------------
Enw:
Angharad Gwyn
Lleoliad:
Caerdydd
Agtofion:

cliciwch i weld y llun maint llawnRhyw saith oed oeddwn i pan nes i gyfarfod Gwenlyn Parry yn Eisteddfod Môn yn '83. Ro'n i wrth fy modd pan nes i ddarllen am John Ogwen yn sôn am ei sgiliau o wneud llun Donald Duck, achos mi wnaeth Gwenlyn lun o Donald Duck i minnau hefyd!

-----------------------------------------------------------------------
Enw:
Dafydd Mei
Lleoliad:
Penygroes
Agtofion:

Dwi'n cofio chwarae gêm bêldroed '5-aside' yng Nghaerdydd yn y 70au - tîm y New Ely yn erbyn y ÃÛÑ¿´«Ã½. Yr unig rai dwi'n cofio yn y tîm oedd Gwenlyn, Rhydderch Jones a Dewi Pws. Mi dreuliodd Gwenlyn a Rhydderch ran fwyaf o'r gêm yn sefyll wrth y gôl yn smocio gan adael Dewi i wneud y gwaith caled o redeg rownd y cae! Dwi ddim yn cofio pwy enillodd!

-----------------------------------------------------------------------
Enw:

Owain Arfon Williams

Lleoliad:
Caerdydd
Agtofion:

Un waith y cyfarfûm i â Gwenlyn. Roeddwn i tua 10/12 oed (tua diwedd y 70au), a daeth Gwenlyn draw i'n ty ni yng Nghaerdydd i barti drefnwyd gan fy rhieni. Ro'n i wedi trio agor can cwrw mawr (tua 2 litr am wn i - can cwrw ar gyfer parti!) i fy rhieni yn ystod y parti, ond daeth Gwenlyn drwodd i'r gegin a dweud wrtha i bod angen agor y can yn y ddau ben er mwyn i'r cwrw allu llifo allan! Roedd hi'n amlwg fod ganddo fwy o brofiad na mi yn y maes bryd hynny!

Ìý Ìý
ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddramâu
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Llên

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy