
Beth Å·n nhw? Os yw dy ddannedd di'n gam neu os oes 'da ti ormod o ddannedd, gall gwisgo bresys helpu i'w gwneud nhw'n syth neu wneud lle iddyn nhw i gyd.
Ma' lot o wahanol fathau o fresys ar gael - rhai clir, rhai gwyn a rhai sy'n cael eu rhoi'n sownd i ochr fewn y dannedd.
Ma' bresys yn gwthio ac yn gwasgu'r dannedd fel bo' nhw'n tyfu'n syth.
Pam bod rhaid i fi gael bresys? Bydd 'da ti wên bert. Bydd dy ddannedd yn haws i'w glanhau (dannedd glân = llai o fillings = llai o ddannedd dodi pan fyddi di'n hŷn).
Beth fydd yn digwydd pan fydda i'n mynd i weld yr orthodeintydd? Yr orthodeintydd yw'r arbenigwr ar fresys. Bydd e'n cymryd rhai x-rays neu luniau o dy ên. Falle bydd rhaid i ti gnoi rhyw stwff meddal i ddangos sut ma' dy ddannedd top yn cyffwrdd â'r rhai gwaelod.
Ar ôl i ti gael brês, byddi di'n mynd i weld yr orthodeintydd bob mis i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn. Falle bydd yr orthodeintydd yn gwneud y brês yn fwy tynn er mwyn gwthio a gwasgu'r dannedd i'w lle.
A fydd e'n gwneud dolur? Tamed bach. Falle bydd dy geg di'n teimlo'n boenus am ddiwrnod neu ddau ar ôl i ti gael y brês ac am ddiwrnod neu ddau ar ôl iddo gael ei dynhau. Cymera un dabled i gael gwared ar y boen, a gwena! Os yw weiren neu fraced yn rhwbio yn erbyn dy geg, rho ychydig o Vaseline ar y man sy'n dost a ffonia dy orthodeintydd am gyngor.
Am faint bydd rhaid i fi wisgo'r brês? Bydd rhaid i ti wisgo brês am unrhyw beth rhwng 6 mis a 2 flynedd - ond mae'n amrywio. Roedd un dyn wedi gwisgo brês am 20 mlynedd achos bod e' wedi anghofio mynd nôl i weld y deintydd.
Oes rhaid i fi stopio bwyta? Na. Falle byddai'n well i ti fwyta bwyd meddal am ddiwrnod neu ddau ar ôl i ti ddechrau gwisgo brês. Y peth diwetha ti ishe yw torri'r brês drwy fwyta afal.
Oes rhaid i fi stopio snogio? Na. Er gwaetha'r holl storïau dwl ti 'di clywed, ewch chi ddim yn sownd yn eich gilydd - hyd yn oed os yw'r ddau ohonoch chi'n gwisgo bresys.
Sut ma' cadw'r bresys yn lân? Ma' bresys fel magnet i fwyd. Dyw darnau o fwyd yn sownd i'r brês ddim yn edrych yn neis iawn, ac mae'n gallu gwneud i dy ddannedd bydru'n (rot) gynt. Gwna'n siŵr bo' ti'n brwsio dy ddannedd yn ofalus ar ôl bwyta a chyn i ti fynd i'r gwely.
Ydw i'n od? Dim o gwbwl. Bydd pobol eraill yn dod i arfer â'r brês yn gynt na ti. Roedd rhaid i Tom Cruise wisgo brês ychydig yn ôl. Ti'n cofio All Saints? Roedd Shaznay yn gwisgo pâr pert o fresys. Ac os oes unrhyw un yn gwneud sbort am dy ben di, cofia mai ti fydd yn chwerthin fwya pan fydd y brês yn dod mas!
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.