
Dyddiadur Dyddiol (5)
Briwsion bob dydd
Nodiadau dyddiol o faes yr Urdd
Erbyn bore Gwener fel hyn mae'r holl gyfansoddiadau llenyddol ar gael i'w gweld.
Yr arferiad erbyn hyn yw cyhoeddi crynswth y cyfansoddiadau ddechrau'r wythnos a chadw cynnyrch y prif gystadlaethau llenyddol tan ar ôl defod y Coroni gan roi inni ddwy gyfrol gyda'r naill a'r llall yn costio £5 yr un - un yn cael ei galw yn Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol 2008 a'r llall wrth yr enw Doniau Disglair gyda chynnyrch Medal y Dysgwyr, Y Gadair, Y Goron a'r Fedal Ddrama ynddi.
Yn hon hefyd mae beirniadaeth cystadleuaeth y prif gyfansoddwr gan godi'r cwestiwn faint fydd hi nes cymryd y cam naturiol nesaf o gynnwys gwaith y cyfansoddwr arobryn ar ddisgen fel bo pawb yn cael ei werthfawrogi yntau hefyd.
Dymuniad bardd
Cymerodd ddiwrnod neu ddau wedi'r cadeirio cyn i'r rhan fwyaf gofio mai ar donfeddi ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru y gofynnodd yr enillydd i'w gariad ei briodi!Yr oedd hynny fis Ionawr pan oedd Iwan Rhys yn fardd yr wythnos a manteisio ar y cyfle i ofyn i Angharad Hewitson ei briodi.
A hithau'n cytuno a byddant yn priodi yng Nghaergybi fis Hydref.
Mae hyn, does bosib, yn cyfiawnhau disgrifio Iwan fel bardd serch neu'n un o'r beirdd rhamantus!
Y dychweledig
Mae'r hen chwedl yn gwbl glir - y dychwelai Arthur.
Ac yn hanes yr Urdd mae hynny ar fin digwydd.
Sôn yr ydym am y cwch 'Y Brenin Arthur' yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn y disgwylir ei weld yn hwylio Llyn Tegid unwaith eto cyn diwedd y flwyddyn.
Ar un adeg yr oedd Brenin Arthur a Glan-llyn yn gyfystyr gan mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth Syr Ifan ab Owen Edwards ar ôl agor y gwersyll yn 1950 oedd prynu cwch modur mawr a allai gario deugain o bobl.
Yr oedd yn atyniad poblogaidd ac yn ogystal a thripiau ar y llyn y Brenin Arthur fyddai'n cludo gwersyllwyr o orsaf drenau Llangywer i'r gwersyll gyferbyn.
Cychwyn gwych i unrhyw wyliau!
Erbyn 1967 dirywiodd cyflwr y cwch gymaint bu'n rhaid prynu Brenin Arthur II ond erbyn Wythdegau'r ganrif ddiwethaf bu'n rhaid tynnu hwnnw oddi ar y dŵr hefyd.
Er iddo brofi adferiad am gyfnod ddechrau'r ganrif hon neilltuo i gwt cwch fu'n rhaid iddo.
Erbyn hyn, fodd bynnag, diolch i grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwn mae'r Brenin, wedi cyfnod mewn iard longau ym Mangor, yn barod am waith unwaith eto a hen draddodiad digon rhamantus wedi ei adfer ac mae cynlluniau eto i gludo o Langywer - er nad yw'r orsaf honno mwyach yn rhan o'r gyfundrefn reilffyrdd go iawn.
Y wobr fwyaf
Does dim dadl mai cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn y Gelli Gandryll a gafodd y sylw mwyaf o gystadlaethau'r wythnos hon.
Ond fe fu gwobrwyo llyfr y flwyddyn arall. Yn Eisteddfod yr Urdd pan gyflwynwyd un o wobrau Tir na n-Og i Gareth F Williams am ei nofel ragorol, Eira Mân - eira Mawr
A phan ofynnwyd iddo beth oedd ei hennill yn ei olygu dywedodd;
"Llawer iawn - er bod awduron yn greaduriaid swil, mae cael gwerthfawrogiad o'r fath yn rhoi hwb anferth i ni fwrw iddi ac ysgrifennu rhagor."
Ac wrth gael ei holi ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru dywedodd y byddai'r wobr hon am lyfr plant yn golygu mwy iddo nag y byddai hyd yn oed ennill Llyfr y Flwyddyn.
Tybed a ddaw honno hefyd i'w ran yn y dyfodol?
Roconwyth
cafodd aelodau'r wasg a'r cyfryngau damaid o india roc pinc go arbennig y dydd o'r blaen.
Un gyda'r geiriau 'Conwy 2008' yn rhedeg drwyddo er mwyn tynnu sylw at CD RoCon 08 a drefnwyd gan Derfel Thomas i godi arian at yr Eisteddfod.
A'r CD hon gyda'i chyfuniad o artistiaid cenedlaethol a lleol yw'r unig ffordd i gael copi o gân Subbuteo gan Brigyn.