Main content

VE Day ac agor y gwersylloedd rhyfel

Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'. Archive programme from 2004 remembering the Second World War.

Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar gyfnod cythryblus yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni hanner cant o ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'.

Yn filwyr a morwyr, yn weithwyr fferm a gwrthwynebwyr cydwybodol, yn faciwîs a phlant ysgol – mae nhw’n hel atgofion am flynyddoedd oedd yn dyngedfennol yn eu hanes. Yng nghanol y brwydro a'r colledion mae yna sôn annisgwyl hefyd am fwynhau ac am frawdgarwch mewn dyddiau tywyll.

Mae'r bennod hon mae Cenhedlaeth y Rhyfel yn cofio dathliadau VE Day yn ogystal â'r hyn welwyd pan agorwyd y gwersylloedd rhyfel.

1 mis ar ôl i wrando

30 o funudau

Ar y Radio

Sul 28 Medi 2025 02:30

Darllediadau

  • Sul 31 Awst 2025 02:30
  • Sul 28 Medi 2025 02:30