Episode details

Available for 22 days
Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar gyfnod cythryblus yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni hanner cant o ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'. Yn filwyr a morwyr, yn weithwyr fferm a gwrthwynebwyr cydwybodol, yn faciwîs a phlant ysgol – mae nhw’n hel atgofion am flynyddoedd oedd yn dyngedfennol yn eu hanes. Yng nghanol y brwydro a'r colledion mae yna sôn annisgwyl hefyd am fwynhau ac am frawdgarwch mewn dyddiau tywyll. Yn rhaglen olaf y gyfres mae Dewi Llwyd yn clywed mwy gan y bobol hynny a welodd rai o erchyllterau’r cyfnod. Maent yn trafod a oedd hi’n werth mynd i ryfel, yn cofio am eu gobeithion pan ddaeth y brwydro i ben, ac yn pwyso a mesur yr effaith a gafodd y blynyddoedd hynny ar eu bywydau.
Programme Website