Main content

Diwedd y Rhyfel

Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'. Archive programme from 2004 remembering the Second World War.

Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar gyfnod cythryblus yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni hanner cant o ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'.

Yn filwyr a morwyr, yn weithwyr fferm a gwrthwynebwyr cydwybodol, yn faciwîs a phlant ysgol – mae nhw’n hel atgofion am flynyddoedd oedd yn dyngedfennol yn eu hanes. Yng nghanol y brwydro a'r colledion mae yna sôn annisgwyl hefyd am fwynhau ac am frawdgarwch mewn dyddiau tywyll.

Yn rhaglen olaf y gyfres mae Dewi Llwyd yn clywed mwy gan y bobol hynny a welodd rai o erchyllterau’r cyfnod. Maent yn trafod a oedd hi’n werth mynd i ryfel, yn cofio am eu gobeithion pan ddaeth y brwydro i ben, ac yn pwyso a mesur yr effaith a gafodd y blynyddoedd hynny ar eu bywydau.

1 mis ar ôl i wrando

30 o funudau

Ar y Radio

Sul 28 Medi 2025 03:00

Darllediadau

  • Sul 31 Awst 2025 03:00
  • Sul 28 Medi 2025 03:00