Main content

Cân Ysgafn: Y Rhagbrawf

Roedd arna' i angen car newydd
(Roedd yr hen un ar stop yn dragywydd),
A dyma fi’n troi
At yr Herald bnawn ddoe
I chwilio car clou at fy nefnydd.

Dyma weld un, a ffonio’r perchennog,
Roedd e’n mofyn dwy fil a chwe cheiniog,
“Ga i fynd mas â’r car
Am brawf ar y tar?â€
Gofynnais yn eiddgar, amhwyllog.

A dyna pam rydw i heddi
Yn gorwedd mewn ward yn y 'sbyty
Mewn plaster of Paris
A dau glais dansheris
Yn biws dan fy mhelfis yn gwasgu.

Bydd rhaid imi ffonio’r dyn heno
Er mwyn imi geisio esbonio
Bod y sbardun yn great,
Y cornelu'n deit,
Ond y brêcs oedd ddim cweit yn fy mhlesio.

Iwan Rhys

8

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

57 eiliad

Daw'r clip hwn o