ÃÛÑ¿´«Ã½

Carolyn Hitt

Golygydd Radio Wales a Chwaraeon ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Carolyn Hitt

Ganed Carolyn Hitt yn Llwynypia yn y Rhondda, bu’n astudio Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen ac ar ôl ennill Tystysgrif Newyddiaduraeth Newyddion Rhanbarthol Thomson fel gohebydd dan hyfforddiant ar y Neath Guardian a’r Merthyr Express, dechreuodd ei gyrfa yn y Western Mail.

Yno, daeth yn Olygydd Nodweddion ac enillodd Awdur Nodwedd Cymreig y Flwyddyn, cyn symud i ddarlledu, gan ymuno â’r cwmni cynhyrchu annibynnol Presentable.

Yn 2012, cydsefydlodd Parasol Media, ac roedd ei gynyrchiadau’n cynnwys Only Connect ar ÃÛÑ¿´«Ã½2 a nifer o raglenni dogfen, hanes, chwaraeon, cerddoriaeth ac adloniant a phrosiectau aml-gyfrwng.

Mae Carolyn wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer ÃÛÑ¿´«Ã½1, ÃÛÑ¿´«Ã½2, ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru, ITV Cymru, Radio 4 a Radio Wales, ac fel cynhyrchydd a enwebwyd ar gyfer Bafta Cymru a Gwobrau’r Cyfryngau Celtaidd mae hi wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf Cymru, gan gynnwys y Fonesig Sian Phillips, Gaby Logan, Max Boyce, Cerys Matthews, Eve Myles, Syr Gareth Edwards a’r Farwnes Tanni Grey Thompson.

Mae hi wedi darparu rhai o ffigurau cynulleidfa mwyaf gan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales drwy sioeau teledu adloniant ar raddfa fawr ac mae hi wedi creu’r prosiect cyfryngau aml-lwyfan, Hidden Heroines, a helpodd i sicrhau’r cerflun cyntaf o fenyw benodol yng Nghymru.

Fel gweithiwr annibynnol, roedd gan Carolyn berthynas greadigol â Radio Wales am fwy nag 20 mlynedd, gan gynhyrchu llinynnau byw dyddiol ac ar y penwythnos, rhaglenni dogfen, cyfresi ffeithiol, sioeau comedi a detholiadau thematig o'r amserlen gyfan.

Mae hi wedi cyfuno ei gyrfa ym maes darlledu â newyddiaduraeth ysgrifenedig, gan gyfrannu at The Guardian, The Daily Telegraph a nifer o gylchgronau, ac am 30 mlynedd hi oedd colofnydd wythnosol arobryn y Western Mail. Yn 2020, enillodd wobr Colofnydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwasg Ranbarthol Cymdeithas Golygyddion y DU am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Mae hi wedi bod yn arloeswraig mewn cyfryngau chwaraeon. Ym 1998, Carolyn oedd y fenyw gyntaf i ennill Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn Cymru ac aeth ymlaen i ennill y wobr dros y DU gyfan. Hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr Newyddiadurwr y Flwyddyn The Welsh Sports Hall of Fame, ac yn 2016 hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn Cymdeithas Golygyddion Gwasg Ranbarthol y DU.

Mae hi wedi ysgrifennu ar rygbi ar gyfer y Daily Telegraph,  L’Equipe ac Undeb Rygbi Cymru. Yn 2012, cyhoeddodd ei llyfr chwaraeon cyntaf – Wales Play In Red, a oedd yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o enwau mwyaf y gêm ac enwogion sy’n cefnogi rygbi. Yn 2015, cyhoeddodd ei hail lyfr, Welsh Rugby in the 70s.

Mae hi wedi creu toreth o raglenni chwaraeon, gan gynnwys hanes y Gemau Olympaidd, Gemau’r Gymanwlad, Gemau’r Chwe Gwlad a Llewod Prydain ac Iwerddon a fformatau adloniant chwaraeon teledu i ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd ac i nodi pen-blwydd Syr Gareth Edwards yn 70 oed. Yn 2019, cyflwynodd y rhaglen ddogfen nodedig ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales The Rugby Codebreakers ac mae hi wedi cyfrannu at Scrum V, Slammed a chyfres fyd-eang Amazon Prime, The Story of Rugby, yn ogystal â siarad am rygbi ar Radio Wales, Radio 4 a Five Live.

Ond un o’r pethau y mae’n fwyaf balch ohonynt o hyd yw curo Gary Barlow pan oedd ef yn 15 oed, yng nghystadleuaeth ysgrifennu carolau ysgolion y ÃÛÑ¿´«Ã½, A Song for Christmas, yn 1986...nid fod hynny wedi dal Gary yn ôl! Gan fod y cynhyrchydd yn ddigon caredig i gynnig profiad gwaith i Carolyn yn y ÃÛÑ¿´«Ã½ tra roedd yn fyfyrwyr, bu hynny'n sbardun a daniodd ei dyheadau i ddarlledu.

Ym mis Medi 2022 ymunodd Carolyn â ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales fel Golygydd Radio Wales a Chwaraeon.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: