ÃÛÑ¿´«Ã½

Nia Morgan

Uwch Bartner Busnes, Cyllid

Nia Morgan

Fel Uwch Bartner Busnes Cyllid, mae Nia yn gyfrifol am reoli arian yn effeithiol, ac am ddarparu cymorth ymgynghorol i ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales. Mae Nia yn gweithio’n agos gyda’r uwch dîm, yn sbarduno newid drwy ddiffinio strategaeth ariannol a chysoni cynlluniau â’r adnoddau ariannol sydd ar gael i sicrhau’r gwerth gorau i’r rhai sy’n talu’r drwydded. 

Mae Nia yn Gyfrifydd Siartredig, a bu’n cael hyfforddiant gyda Deloitte yng Nghaerdydd – cyn symud i swyddfa Bermuda. Cyn ymuno â’r ÃÛÑ¿´«Ã½, roedd Nia yn Gyfarwyddwr Cyllid yn Senedd Cymru rhwng 2016 a 2023, ac roedd yn un o Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Aelodau’r Senedd. Mae hi hefyd bod mewn swyddi cyllid uwch yn y sector tai a’r sector iechyd. 

Yn wreiddiol o Flaendulais, mynychodd Nia Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifeg ac, yn fwy diweddar, Gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA).  

Mae Nia yn byw yn Abertawe gyda’i theulu.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: