ÃÛÑ¿´«Ã½

Sian Gwynedd

Pennaeth Pobl, Diwylliant a Phartneriaethau

Sian Gwynedd

Mae Sian yn gyfrifol am annog partneriaeth a datblygiad ar draws y gymuned gynhyrchu yn ogystal ag ystod eang o ddyletswyddau. Mae’n arwain ar ddatblygu’r bartneriaeth gydag S4C, fframwaith uchelgeisiol ar gyfer datblygiad talent cynhyrchu, amrywiaeth ar yr awyr, a rhaglenni radio ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru i’r rhwydwaith.

Roedd Sian yn Bennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Iaith Gymraeg o 2012 - 2016 ac yn Olygydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2006-2012.

Mae cefndir Sian mewn newyddiaduraeth ac ymunodd â'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn 1994 fel ymchwilydd ar newyddion Radio Cymru a chafodd ei gwneud yn Olygydd y rhaglen Newyddion yn 2003. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf bu'n gweithio yng Nghymru fel newyddiadurwr ar bapurau newydd a chylchgronau ac fel newyddiadurwr a chynhyrchydd ar nifer o raglenni newyddion radio a theledu. Yn wreiddiol o’r Bala cafodd ei haddysg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala a Choleg Newnham, Caergrawnt, lle bu’n astudio Hanes ac Astudiaethau Eingl-Sacsonaidd, Nordig a Cheltaidd.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: