Yn ddiweddar bu Siôn Owain Jones, Abercuawg, Maes Newydd, Machynlleth yn cynrychioli Cymru yng nghyfres iau Bowls Rhyngwladol o dan 25 oed a gynhaliwyd yn Leamington Sba. Fe drechodd Cymru Lloegr o 17 siot, a Gogledd Iwerddon o 38 siot, ond colli i'r Alban o 30 siot i orffen yn ail i'r Alban. Dyma'r drydedd tro i Siôn gynrychioli Cymru ar lefel iau. Mae'n cael anrhydedd lawn y flwyddyn nesaf. Dyma lun o'r tîm a ddaeth yn ail yn Leamington Sba. Mae Siôn yn yr ail res o'r cefn a'r ail o'r dde. Llongyfarchiadau mawr i ti Siôn a dymuniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
 |