ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Plas Machynlleth Plas Machynlleth: Cynnig y Bobl
Mai 2006
Mae dyfodol un o adeiladau mwyaf nodedig Cymru yn edrych yn fwy addawol wrth i'r gymuned leol lansio cynnig ysbrydoledig i'w ddatblygu yn y dyfodol.

Mae Plas Machynlleth, cyn gartref atyniad "Celtica", wedi bod yn wag ers cau Celtica ddiwedd Mawrth, gyda dim ond ychydig iawn o ddefnydd yn cael ei wneud o'r lle.

Ar ôl ymchwilio'n fanwl i ddyheadau'r trigolion lleol mae Pwyllgor Llywio'r Plas wedi llunio cynnig a fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Powys i'w ystyried...

Dywedodd Andy Rowland ar ran y Pwyllgor Llywio: "Mae'r cynnig yn tynnu at ei gilydd bopeth a ystyrir yn bwysig gan drigolion Bro Ddyfi yn ôl yr arolwg. Does dim dwywaith nad yw dyfodol yr adeilad hwn yn ganolbwynt i fywyd ym Machynlleth: ac yn gydnaws a'r rhodd wreiddiol i bobl Machynlleth gan y 7fed Arglwydd Londonderry. Bydd ein cynnig ni'n sicrhau dyfodol ariannol yr adeilad yn ogystal â dod â'r adeilad yn ôl i galon y gymuned."

Mae gweledigaeth y Pwyllgor Llywio ar gyfer dyfodol Plas Machynlleth yn cynnwys cymysgedd cyffrous o ofod celfyddydol, lle i fusnesau, cyfleusterau addysgiadol, adnoddau treftadaeth ac atyniadau galw-i-mewn i ymwelwyr â'r ardal.

Ar y llawr gwaelod, bydd y lle'n cael ei ail-gynllunio fel man croesawgar i gynnal cynadleddau, cyfarfodydd grwpiau lleol a chelfyddydau perfformio. Yn ogystal â hyn mae lle wedi'i gynllunio i ddenu ymweliadau gan ysgolion, a bydd yno sinema 80 sedd i ddangos ffilmiau Cymraeg a Saesneg.

Bydd yno ystafell baned hefyd gyda lle chwarae ar ffurf parc pêl, cyfleusterau yn benodol ar gyfer rhieni a phlant ifainc: defnyddir yr ystafell bared fel bwyty iawn min nos yn rheolaidd, gyda rhaglen dreigl o adloniant byw.

Nod y grŵp yw adfer Orendy hanesyddol yr adeilad, fel rhan o'r rhaglen adfer gyffredinol.

Ar loriau 1 a 2, bydd "Canolfan Plas Gwaith" yn cynnig lleoedd arbennig ar gyfer swyddfeydd am brisiau isel i fusnesau bychain - cyfrir prinder lle'n gyfrifol am ddiffyg datblygiad economaidd y dref.

"Bydd Plas Machynlleth yn cyflawni dwy swyddogaeth arbennig yn y dyfodol pe byddai ein cynigion yn cael eu derbyn. Bydd yn adnodd ysbrydoledig a phwysig i'r gymuned leol. A bydd yn denu ymwelwyr i bob math o atyniadau, o'r bwyty a'r sinema i'r arddangosfeydd treftadaeth, cyfleusterau cynadledda a rhaglenni addysgiadol," meddai Andy wrthym.

Apwyntiwyd y Pwyllgor Llywio gan gyfarfod cyhoeddus ym mis Ionawr, ac mae'n adrodd yn ôl i Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch. Dewiswyd yr aelodau i adlewyrchu'r syniadau amrywiol a awgrymwyd yn y ddau gyfarfod cyhoeddus, ac maent yn cynnwys pobl fusnes lleol, penseiri, cynghorwyr, cynllunwyr ac addysgwyr. Mae wedi derbyn cyngor cyfrifwyr, ac ymgynghorwyr busnes yn ystod cyfnod datblygu'r cynnig.

Cadeirir y Grŵp gan Meinir Wyn Jones. "Rydym yn gobeithio derbyn y golau gwyrdd gan Gyngor Sir Powys er mwyn gwireddu breuddwydion pobl Bro Ddyfi", meddai.

Mae'r pwyllgor yn brysur yn trefnu digwyddiad yn Y Plas ar gyfer prynhawn a min nos Mehefin 25ain. Bydd yn cyfuno adloniant gan rai tebyg i Gwilym Morris a "Black Russian", gyda chyfleoedd i drafod y cynigion a theimlo'r posibiliadau. Mae'r aelodau'n awyddus i adrodd yn ôl i'r gymuned ac i geisio cefnogaeth. "Bydd hwn yn gyfle i wyntyllu'r cynigion yn llawnach ac i ddathlu'r lle a'i botensial ar gyfer y dyfodol ", meddai 'r trefnydd Jenny Hall.

Mae mwy o wybodaeth ar Wefan ecodyfi -

Os ydych am wybodaeth bellach cysylltwch ag Andy Rowland yn ecodyfi. Ffôn: 01654 703965


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý