Braf oedd ar Sadwrn, Mai 12fed cael cyfle i ymweld â chornel fach o'n Sir ein hunain, ac ymweld yn gyntaf â Llanwddyn ar Warchodfa Natur, cael cyfle i gael paned yn y caffi, ymweld â'r guddfan adar, mwynhau'r prydferthwch o gwmpas, yna gwrando ar sgwrs ddifyr gan Janet am hanes y Warchodfa a'r ardal o gwmpas y llyn. Yn y flwyddyn 1881 y dechreuwyd adeiladu'r Argae a boddwyd yr hen Lanwddyn yn 1889.
Cawsom ein hatgoffa o Awdl y prifardd John Evans i'r Argae
Llanwddyn yn llyn heddiw- dinodedd
Ei anheddau chwilfrif
Tan genlli tonnog un lliw
Allorau bro'n y llawr briw
Briw hen y Cwm a brynwyd- yr erwau
Er arian a werthwyd
Y brau feddau a faeddwyd
A'r Llau yn y dyfnder llwyd
A llwyd fel cen y llediaeth- a dorrodd
Ar gwm dewr ac uniaith
Rhy drwm fu gorthrwm Y Gwaith
A chost yr oer orchestwaith
Wedi ymweld â Llanwddyn, cychwyn wedyn am bentref bach Llangynog wrth droed y Berwyn. Cofio am Nansi Richards, telynores Maldwyn wrth fynd trwy Benybont Fawr. Cael cyfle yn Llangynog i fwynhau cinio, cyn adael ein cludo ar fws llai i fyny i Gwm Pennant Melangell a'r eglwys henafol sy'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif. Mae pawb yn gyfarwydd â stori Melangell a ddaeth i'r ardal i geisio lloches yn y seithfed ganrif, ac fel y bu iddi achub ysgyfarnog rhag cŵn hela'r tywysog Brochwel. Rhoddodd y Tywysog y dyffryn yn encil iddi, a threuliodd weddill ei hoes yno.
Ym mynwent eglwys Melangell mae Bedd Nansi Richards, Telynores Maldwyn.
Hyfryd oedd cael profi tawelwch a phrydferthwch y cwm unig cyn teithio'n ôl am dref Llanfyllin, ac ymweld â Chapel Pendre, cyn mwynhau paned yng Ngwesty'r Cain.
Wedyn ymweld â phentref Pontrobert. Dywedir mae Pont Robert ap Oliver yw'r enw cywir gan i'r gŵr hwn adeiladu'r bont bren gyntaf er mwyn croesi'r afon i weld ei gariad. Adeiladwyd y bont gerrig tua 1669. Yr ochr draw i'r bont sylwyd bod y Capel Methodistiaid wedi cau ac ar werth. Yn nes i'r bont mae hen dŷ tafarn hynafol iawn a elwid yn Ye Olde Pack Horse Inn.
Byddai Twm o'r Nant yn ymwelydd cyson yn ôl y sôn pan fyddai'n torri coed yn yr ardal. Ychydig i fyny'r ffordd y saif Bryn Gwalia lle ganwyd Dyddgu Owen, ei thad yn weinidog yn yr ardal. Yn y pentref hwn hefyd y ganwyd John Davies y Cenhadwr a aeth â'r Efengyl i Ynys Tahiti. Gwr o Tan y Ffridd, Pontrobert oedd y Parch Thomas Jones, Cenhadwr Methodistaidd cyntaf i fynd i'r India.
Braf oedd cael cyfle i ymweld a chapel John Hughes, a chael cyfle i wrando ar Nia Rhosier yn sôn fel yr aed ati i geisio dodâa'r adeilad yn ôl i'w hen ogoniant ar ôl cael ei ddefnyddio fel gweithdy am flynyddoedd lawer, a chlywyd am yr holl bererinion sydd yn ymweld a'r lle erbyn hyn, i glywed yr hanes am Ann Griffiths a'i hemynau. Fel y bu i Ruth morwyn Ann ac a briododd John Hughes, gofio'r emynau ar ei chof, a'u hadrodd. Diddorol oedd y pulpud pin uchel yng Nghapel John Hughes, hefyd y drws bach oedd yn agor o ystafell wely'r Tŷ Capel i'r Capel. Dywedir bod John Hughes syn pregethu o'i wely i'r gynulleidfa ar ôl iddo fynd yn hen ac mewn llesgedd.
Mae cofeb i John Davies, Tahiti wedi ei dadorchuddio yng Nghapel John Hughes.
Wrth deithio'n ôl i Bontrobert ar y llaw chwith gwelwyd Dolobran Fawr. Yno y ganwyd Charles a Thomas Lloyd, perchnogion ystad a gwŷr busnes llwyddiannus. Ymunodd Charles Lloyd â'r Crynwyr, carcharwyd ef am ddeg mlynedd yng Ngharchar Trallwm. Ar ôl astudio meddygaeth yng Ngholeg Rhydychen daeth Thomas Lloyd adref. Ymunodd yntau â'r Crynwyr ac aeth ar wahoddiad Syr William Penn i sefydlu Pennsylvania yn 1693. Y teulu hynod yma gychwynnodd y Banc enwog Lloyds.
Mwynhawyd swper hyfryd ar ein ffordd adref yng gwesty'r Dyffryn, Foel. Diolchodd Avona Williams i Mair Lynne yr ysgrifenyddes ac Alun Williams y trysorydd ac i bawb a fu'n cynorthwyo i wneud y daith yn llwyddiannus. Diolchodd W.J. Davies, y llywydd newydd, i Avona Williams am drefnu taith mor ddiddorol.
Cyfansoddodd Ithel Rowlands englyn i Avona Williams.
I Avona'n diolch fo hen- am arwain
Am oriau mor grynuo.
Daw atom y gweld eto-
Lliw Cwm Melangell y co'.