ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
David Peate, Vernon Evans, Philip Jones, y Parch Edwin Hughes, Arthur Taylor, George Morgan, Melvyn Jones. Gwyneth Jones, Dai Morris, Anne Rees a David Hopkins Y Cilgant ar ei newydd wedd
Hydref 2009
Hanes dathliad agor Canolfan Gristnogol y Cilgant yn Y Drenewydd yn ystod mis Medi.

Dathlwyd ailagor Capel y Crescent yn Y Drenewydd, gyda nifer o weithgareddau yn ystod yr wythnos 6 Medi hyd y 13 Medi.

Cynhaliwyd gwasanaethau arferol am 9.30 ac 11.00 o'r gloch ar y Sul cyntaf. Roedd Dydd Llun yn Ddiwrnod Agored, a gwahoddwyd y cyhoedd i weld y capel ar ei newydd wedd, i fwynhau paned a sgwrs ac i wrando ar yr organ. Daeth dros 200 o bob! drwy'r drws yn ystod y dydd a phawb yn synnu a rhyfeddu wrth weld y newid.

Cafwyd Bore Coffi Ddydd Mercher, gyda noson I blant a phobl ifanc a'u rhieni yn yr hwyr. Daeth Grŵp Roc Ysgol Dafydd Llwyd i'w 'gig' cyntaf, ac yn absenoldeb Aled Myrddin, oherwydd gwaeledd, daeth Y Parch. Bob Pithcher, Llanidloes, atom i ganu caneuon 'rhythm a blues' crefyddol.

Treuliwyd amser yn cynnal cwis Beiblaidd, a bu'n noson ddifyr dros ben.

Daeth Nia Williams o Goleg y Bala i gynnal sesiynnau gyda plant Ysgol Dafydd Llwyd a phlant Ysgol Penygloddfa. Thema'r sesiynnau oedd 'adeiladu' ac yr oedd ymateb y plant yn dangos yn eglur iddyn nhw fwynhau eu hymweliad a'r ganolfan.

Nos Wener oedd noson "Y Gwasanaeth Agoriadol", ac yr oedd y capel yn Ilawn. Cafwyd oedfa hyfryd, a neges gref a heriol gan Y Parch. Ddr. Elfed ap Nefydd Roberts. Roedd y cyfan yn fendithiol lawn.

Bu priodas Sarah Jayne Astley a Jonathan Davies Ddydd Sadwrn, ac yr oedd hynny yn ychwanegiad hapus iawn i'r dathliadau. Pob bendith i'r ddau yn eu bywyd priodasol.

Yna, ddydd Sul 13 Medi cafwyd tair oedfa. Yn y bore cynhaliwyd Oedfa Saesneg, dan ofal Y Parch. Emrys Wyn Evans, Caersws, ac yn y prynhawn pregethodd Emrys yn Gymraeg. Yn yr hwyr cynhaliwyd Gwasanaeth Cymun Ddwyieithog dan ofal y Gweinidog.

Bu'r wythnos gyfan yn Ilwyddiant, a diolch i bawb am eu diddordeb, eu cefnogaeth a'u dymnuniadauda a'u gweddiau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý