ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Y Derwydd Gweinyddol, Hedd Bleddyn, yn agor y ddefod gyhoeddi Cyhoeddi Eisteddfod Powys 2010
Tachwedd 2009
Edwin O Hughes, sy' adrodd hanes diwrnod cyhoeddi Eisteddfod Powys Llanidloes a'r Cylch 2010.

"Gwawriodd Sadwrn, 17 Hydref yn sych ac yn braf, ac yr oedd hynny'n argoeli'n dda.

Pan gyrhaeddais Canolfan y Gymuned yn Llanidloes tua hanner awr wedi un cefais fy siomi'r ochr orau pan welais dorf dda o bobl wedi ymgynnull.

Roedd pobl ar y palmentydd wrth i'r oryrmdaith nadreddu ei ffordd ar hyd strydoedd y dref y tu ôl i Seindorf Y Drenewydd.

Mae'r Ilecyn lle y mae Meini'r Orsedd yn Llanidloes yn Ilecyn hyfryd, er nad yw'n wastad iawn.

Roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl o gwmpas Cylch yr Orsedd, ac yr oedd y seremoni'n ardderchog.

Bu'r cyngerdd gyda'r hwyr gan Gôr Y Brythoniaid yn wefreiddiol.

Cafwyd unawdau gan John Eifion, John Murray a Goronwy Hughes. Y Cyfeilyddion oedd Huw Alan Roberts ac Elisabeth Ellis, a roddodd i ni ddwy unawd ar y piano hefyd.

Roedd hi'n hyfryd cael cwmni yr Arglwydd a'r Fonesig Hooson fel Ilywyddion, a derbyniodd Emlyn gymeradwyaeth frwd am ei araith yn ystod yr Egwyl.

Roedd cynulleidfa niferus yn bresennol, ac, yn wir, yr oedd y cyfan yn goron deilwng ar Å´yl Gyhoeddi Iwyddiannus dros ben. Diolch i bawb."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý