ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Gwyneth Mel, ein Llywydd, gyda'r wraig wadd Mrs Marian James Merched y Wawr
Tachwedd 2006
Hynt a helynt Merched y Wawr cangen Sir Drefaldwyn.
Agorwyd tymor 2006-2007 nos Fercher, Medi 20 yn y Capel Coffa, Milford Road pan ddaeth nifer dda at ei gilydd a chafwyd cyfarfod hwylus iawn. Oherwydd fod ein Llywydd, Gwyneth, draw, draw yn China efo Mel, a'n Is-Lywydd Rhian draw, draw yn Brighton efo Lembit, bu rhaid i'r Ysgrifennydd, Nansi, gymeryd yr awenau a Marian, yr Is-Lywydd, yn gwneud y nodiadau!

Croesawyd atom, Tegwen Morris, y Cyfarwyddwr Cenedlaethol a Mim Roberts, Swyddog Datblygu'r Gogledd Orllewin a da oedd gweld y ddwy a chael gair o annogaeth gan Tegwen. Bu Mim wrthi'n brysur yn rhannu'r cardiau Nadolig, y dyddiaduron a phlatiau pen blwydd y Deugain.

Ein gŵr gwadd yn y cyfarfod dechreuol hwn oedd y Prifardd Penri Roberts a fu'n sôn am farddoni ac yn trafod rhai o'i gerddi - y llon a'r lleddf. Roedd yn gyfarfod hwyliog dros ben gyda digon o chwerthin iach a phawb yn mwynhau'r awryglch cartefol yn y capel. Anne Rees draddododd y diolchiadau a gwnaed y te gan Nelian a Laura.

Cyfarfod Hydref

Nos Fercher, Hydref 11 oedd y cyfarfod cyntaf i Ferchd y Wawr y Drenewydd ei drefnu yn eu man cyfarfod newydd ym Mhlas Dolerw. Ein gwraig wâdd oedd Marian James o'r Trallwm a buom i gyd yn synnu a rhyfeddu at ei gwaith cywrain a'r amrywiaeth o wahanol fathau o waith llaw roedd hi yn ei arddangos. Roedd y rhan helaeth o'i gwaith wedi ennill gwobrau eisteddfodol lu a rhai ohonynt wedi cymryd blynyddoedd lawer i'w cwblhau.

Cyflwynwyd Marian gan ein Llywydd, Gwyneth Mel a diolchwyd iddi gan Pamela. Dysgwraig yw Pamela ac mae ei meistrolaeth o'r Gymraeg yn glôd mawr iddi ac rydym fel cangen yn ei llongyfarch ac yn falch iawn ohoni.

Gwnaed y te gan Eluned ag Edith- rydym yn falch iawn ohonyn' hwythau hefyd!

Bydd y cyfarfod nesaf yn y CAPEL COFFA, nos Fercher, Tachwedd 8fed am 7.00 o'r gloch pan fydd Ian a Margaret Roberts yn Hel Achau efo ni.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý