ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tîm genethod Pwllheli Pêl-droed ieuenctid
Mae digon o gyfle i bobl ifanc chwarae pêl-droed yn yr ardal, boed yn fechgyn neu enethod. Cofiwch anfon straeon a lluniau eich clwb chi aton ni.

Profiad Manon o fod ar dîm o dan 16 Cymru

Mae Carys Booth o Lanfairpwll yn un o'r tîm o wirfoddolwyr sy'n gweithio i gynnal diddordeb mewn pêl-droed ymysg timau ifanc yr ardal:

"Dydw i ddim yn siŵr iawn sut y des i'n rhan o dîm pêl-droed iau Llanfairpwll - ac rydw i wedi bod yn ysgrifennydd ers saith mlynedd! Mae fy meibion wedi bod yn chwarae erioed felly mae'n siŵr mai felly y dechreuodd pethau. Mae'n deimlad braf iawn pan mae'r plant i gyd yn eich adnabod ac yn gweiddi 'helo' ar ôl y sesiynau hyfforddi.

"Rydyn ni'n dibynnu llawer ar help y rhieni i ddanfon plant i sesiynau ymarfer a gemau ac i godi arian a hyfforddi - mae'r holl beth yn wirfoddol.

"Mae ein plant ni, sydd rhwng 6 ac 17 oed, yn chwarae i gynghrair Ynys Môn. Mae gwahanol dimau ar gyfer gwahanol oedrannau ac mae merched 14 oed yn chwarae i'n tîm merched ni.

"Mae yna gynghreiriau iau yn ardal Caernarfon ac arfordir y gogledd hefyd."

Swyddog datblygu pêl-droed Gwynedd, Terry Boyle, sy'n sôn wrthon ni am yr ymdrechion i sefydlu mwy o dimau pêl-droed yn yr ardal.

"Un o'n prif gynlluniau ni ydy cychwyn timau mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf fel Blaenau Ffestiniog, Maesgeirchen, Pwllheli, 'Sgubor Goch a'r Bermo. Mae'r ardaloedd yma yn cael cymorth grant i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a hybu ffordd iach o fyw.

"Rydyn ni'n helpu i sefydlu clybiau ond fedrwn ni ddim yn ateb y galw dros nos. Rhaid i'r gymuned berchnogi'r clybiau a'u cadw i fynd yn wirfoddol. Hyd yma, mae wedi bod yn llwyddiant mawr.

"Mae gan Maesgeirchen bellach le aml-ddefnydd i gynnal gemau a swyddog datblygu chwaraeon ac fe wnaeth tîm merched Pwllheli mor dda drwy ddod yn ail i Everton mewn pencampwriaeth fawr, fel bod y mamau wedi penderfynu cymryd rhan hefyd. Mi sefydlon nhw dîm merched ac ennill Cynghrair a Chwpan Merched Gogledd Cymru yn eu tymor cyntaf!

"Rydyn ni'n sefydlu timau ac annog pobl i chwarae pêl-droed mewn ardaloedd eraill hefyd.

Pêl-droed genethod
Karen Williams o Ynys Môn sy'n rhoi cipolwg inni ar bêl-droed merched a genethod yn yr ardal:

"Rydw i'n swyddog datblygu pêl-droed ar Ynys Môn ac yn treulio rhai oriau'r wythnos yn gweithio yn benodol i hybu pêl-droed genethod.

"Rydyn ni hefyd yn annog y chwaraewyr da i ddod am hyfforddiant wythnosol ar lefel sirol ac maen nhw'n cynrychioli Ynys Môn mewn gemau yn erbyn siroedd eraill Cymru.

"Mae pêl-droed wedi dod yn boblogaidd ymysg genethod yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig mewn ysgolion cynradd. Mae cynllun McDonald's wedi bod yn llwyddiannus iawn: mae'r ysgolion sy'n ymuno yn cael offer a chymorth i sefydlu timau bechgyn ac, yn arbennig, genethod ac rydyn ni'n helpu i drefnu pencampwriaethau. Yn sgîl cynllun Campau'r Ddraig a chynlluniau eraill, mae pêl-droed genethod yn mynd o nerth i nerth.

"Gan ei fod wedi dod mor boblogaidd, rydyn ni wrthi'n sefydlu cynghrair cyfeillgar yn Ynys Môn ar gyfer genethod dan 11 oed.

"Mae diddordeb y genethod yn parhau fel arfer pan â'n nhw i'r ysgol uwchradd ac rydyn ni'n lwcus iawn i gael athrawon cefnogol yn yr ardal. Maen nhw'n gefnogol iawn i gynghrair dan 16 Ynys Môn - rydyn ni'n trefnu'r gemau ac maen nhw'n trefnu'r timau a'r amseroedd."

  • Pêl-droed merched

  • Pêl-droed hÅ·n


  • Chwaraeon
    Natur
    Straeon Digidol


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý