ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,19 Nov 2017,30 mins

Series Cyfres 3

13/11/2017

Cymry 1914-1918

Available for over a year

Cyfres sy'n defnyddio dyddiaduron, llythyron ac atgofion i gyflwyno Cymry'r Rhyfel Mawr. William Griffith Pritchard sy’n eistedd yn y llun gyda 2 o’i gyd-filwyr. Aeth William Griffith Pritchard ar goll ar ôl cael ei glwyfo ym Mrwydr Cambrai ar Dachwedd 21, 1917. Roedd yn bobydd llwyddianus ym Mhenygroes ger Caernarfon. Fe oedd perchennog ‘Arvonia Bakery’. Yn haf 1917, cafodd orchymyn i ymuno â’r fyddin, ychydig fisoedd ar ôl priodi, ac yn edrych ymlaen at fod yn dad am y tro cyntaf. Ym mis Tachwedd roedd yng nghanol brwydr Cambrai lle defnyddiwyd tanciau am y tro cyntaf. Aeth ar goll ar ôl cael ei glwyfo. Fis wedyn, ganwyd William, ei blentyn cyntaf. Am 4 mis, bu ei wraig, Harriet Ann Pritchard, yn ysgrifennu llythyr ar ôl llythyr yn gofyn am wybodaeth am ei gwr. Roedd y llawenydd a ddaeth gyda genedigaeth mab yn gymysg â gofid llethol am ei gwr. Ym mis Ebrill 1918 a William yn 4 mis oed, cafodd lythyr yn cadarnhau bod disgiau adnabod ei gwr wedi eu rhoi i fyddin yr Almaen a’i fod wedi ei ladd yn ystod frwydr Cambrai. Mae William, mab William Griffith a Harriet Ann Pritchard yn gant oed fis nesa’. 100 mlynedd ers marwolaeth y tad na welodd yn siarad amdano yn y rhaglen.

Programme Website
More episodes