Troi'r Tir Penodau Canllaw penodau
-
Sioe Aberystwyth
Rhodri Davies sy'n ymweld â Sioe Amaethyddol Aberystwyth, sydd eleni'n dathlu 75 mlynedd.
-
Caws ac iogwrt wedi'u gwneud o laeth dafad
Clywn stori Carrie Rimes sy’n cynhyrchu caws ac iogwrt gan ddefnyddio llaeth defaid.
-
Godro defaid yn Nyffryn Aeron
Terwyn Davies â hanes Gwern Thomas o Geredigion sydd newydd ddechrau godro defaid.
-
29/05/2022
Y straeon diweddaraf o fyd amaeth a bywyd cefn gwlad.
-
Y fferm sy'n croesawu Eisteddfod yr Urdd
Sgwrs gyda Dafydd Evans, y ffermwr o Ddinbych sy'n croesawu Mr Urdd ar ei dir eleni.
-
Dechrau godro ar fferm yng Ngheredigion
Terwyn Davies sy'n clywed hanes Stephen a Claire Jones o Landdewi Brefi a'r fenter newydd.
-
Siop fferm newydd yn Ne Ceredigion
Erin McCudden o siop Cherry Picked yng Ngheredigion sy'n sôn am agor siop fferm newydd.
-
Sadwrn Barlys yn dychwelyd i Aberteifi
Sgwrs gyda threfnwyr Sadwrn Barlys sydd wedi'i gynnal unwaith eto yn nhref Aberteifi.
-
O Lanilar i'r Alban - ŵyna yn yr Ucheldir
Stori Hedd Dafydd o Lanilar sy'n helpu gyda'r ŵyna ar fferm Bowhill yn yr Alban.
-
Wyau Dysynnu
Ar benwythnos y Pasg, hanes Llion Pugh sy'n cadw 32,000 o ieir yn Llanegryn ger Tywyn.
-
Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed yn dathlu
Huw Murphy ac Enid Cole sy'n sôn am Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed yn Eglwyswrw, Sir Benfro.
-
Campfa clôs fferm yn Nyffryn Aeron
Stori Rhys Jones o Ddyffryn Aeron sydd wedi sefydlu campfa ar glôs ei fferm yn Felin Fach.
-
Costau cynyddol ar y byd amaeth
Terwyn Davies sy'n trafod sut y mae costau cynyddol yn cael effaith ar y byd amaeth.
-
Marchnad Orau Cymru
Sgwrs gyda rhai o drefnwyr marchnad Llanbedr-Pont-Steffan, y farchnad orau yng Nghymru.
-
Cofio Dai Jones, Llanilar
Terwyn Davies sy'n cofio Dai Jones, Llanilar yng nghwmni Lyn Ebenezer a Jenny Ogwen.
-
Sioe Beiriannau Ynys Môn
Holl gyffro sioe beiriannau amaethyddol gynhaliwyd yn ddiweddar ar faes Sioe Môn ym Mona.
-
Tyfu Cennin Pedr yn Sir Benfro
Hanes cwmni o Sir Benfro sy'n tyfu Cennin Pedr a llysiau, a'u gwerthu led led Cymru.
-
O Rydychen i Fro Ddyfi
Stori Sam Robinson symudodd o Rydychen i fyw i ardal Bro Ddyfi, a dysgu'r iaith yn rhugl.
-
13/02/2022
Stori arallgyfeirio Emlyn a Hannah Jones o Gwmann ger Llanbed, a'u menter glampio newydd.
-
06/02/2022
Y straeon diweddaraf o fyd amaeth a bywyd cefn gwlad.
-
Arallgyfeirio i'r diwydiant lletygarwch
Jim Ellis o Fferm Llwyndyrus, Y Ffôr ger Pwllheli sy'n sôn am arallgyfeirio ar y fferm.
-
Wythnos Porc o Gymru
Ar ddechrau Wythnos Porc o Gymru, Ela a Huw Roberts o Lithfaen sy'n sôn am fagu moch.
-
Cynllun hydro Cwmystwyth
Hanes James Raw o Gwmystwyth sydd wedi cyflwyno cynllun hydro i'r fferm.
-
Taith yr ebol Seiont Arthur i'r UDA
Hanes taith y cobyn Cymreig, Seiont Arthur, o Gaernarfon i Oregon yn yr Unol Daleithiau.
-
Ifan Gruffydd yn 70
Cyfle i glywed sgwrs estynedig rhwng Terwyn Davies a'r ffermwr a'r amaethwr Ifan Gruffydd.
-
Lleisiau'r flwyddyn
Cyfle eto i glywed rhai o'r lleisiau amrywiol fu'n cyfrannu i Troi'r Tir yn ystod 2021.
-
Atgofion o'r Nadolig yng nghefn gwlad
Terwyn Davies sy'n clywed atgofion lleisiau gwahanol o'r Nadolig yng nghefn gwlad Cymru.
-
Twrciod Cwm Tynant
Elgan a Marion Evans o Fferm Tynant, Talybont sy'n sôn am eu llwyddiant yn y Ffair Aeaf.
-
Y Ffair Aeaf
Terwyn Davies sy'n cyflwyno'r rhaglen o'r Ffair Aeaf o faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
-
Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru
Terwyn Davies sy'n cyflwyno'r rhaglen o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yng Ngheredigion.