ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Seiniau Celtaidd i godi ofn

11 Awst 2007

carincs

Offeryn dychryn ar ffilmiau

Heddiw, mae seiniau hen offeryn cerddorol Celtaidd sy'n dyddio'n ôl ddwy fil o flynyddoedd i'w clywed ar faes yr Eistedddfod.

Mae'r 'carincs' wedi ei seilio ar ben baedd Deskford a gafwyd yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban ac fe'i hail grëwyd ar sail corn rhyfel Celtaidd yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban.

Defnyddiwyd yr offeryn ym mhob cwr o'r byd Celtaidd i codi ofn ar elynion.

Yn ei ddydd, dyma'r offeryn mwyaf swnllyd yn y Byd!

Yr wythnos hon caiff ei chwarae i greu sain i nifer o ffilmiau animeiddio a welir yn Y Pair ar faes yr Eisteddfod gyda sylw penodol i chwedl Culwch ac Olwen a Branwen.

"Treuliodd yr artist Sean Harris a'r cerddor John Kenny ddwy flynedd yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru, Amgueddfeydd Cenedlaethol Yr Alban, Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon a disgyblion ysgol o'r tair gwlad yn creu'r gwaith celf unigryw hwn," meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

Bydd y ffilmiau i'w gweld y tu allan i'r Lle Celf am dri a phedwar heddiw.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý