ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Meddwl mwya'r Steddfod

4 Awst 2007

Guto Roberts - a'i ymennydd

Pendigeidfrên - dyna ichi frên!

Ar faes sydd i fod yn lluosog o feddyliau mwyaf y genedl nid oes amheuaeth o gwbl ble mae'r ymennydd mwyaf yn Yr Wyddgrug.

Yn addas iawn, yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg sydd dan ofal Guto Roberts, cyn ddarlithydd o Brifysgol Morgannwg.

Dywedodd Guto, sy'n ffisegydd wrth ei alwedigaeth, mai dyma'r chweched tro iddo gynllunio'r arddangosfa hon.

"Ac mi fyddai'n ceisio meddwl am rywbeth sy'n mynd i dynnu sylw a dal dychymyg bob blwyddyn," meddai.

Guto Roberts

Yr ymennydd mwyaf!

Ac eleni - ymennydd enfawr sydd fil gwaith yn fwy nag ymennydd go iawn yw'r canolbwynt hwnnw - ac wedi ei adeiladu gan yr un cwmni o Gaerdydd sy'n gyfrifol am rai o greadigaethau Dr Who.

Pan fydd y model - a enwyd yn Pendigeidfrên gan un o wrandawyr rhaglen Hywel a Niaar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru - yn symud mae rhannau arbennig yn goleuo i ddangos pan ran sy'n gyfrifol am beth. Datrys problem yn y blaen, y golwg yn y cefn er enghraifft.

Ond pwysleisiodd Guto, sy'n dod o Edern ym Mhen Llŷn yn wreiddiol, mai dim ond rhan o arddangosfa llawer iawn mwy am wyddoniaeth y meddwl yw Pendigeidfrên.

Ychwanegodd mai dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod gydweithio gydag Adran Seicoleg Prifysgol Bangor ar ddigwyddiad o'r fath.

Meddai Guto, sy'n Ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod:

"Mae'r arddangosfa wedi ei threfnu gyda. chymorth y Wellcome Trust a Phrifysgol Bangor ac rwy'n gobeithio y bydd y model yma yn tynnu sylw acyn arwain pobl i weddill yr arddangosfa," meddai.

Ychwanegodd y bydd cyfle hefyd i blant ac oedolion greu modelau o niwronau, datrys dirgelion, profi eu cof; trwsio ymennydd sydd wedi ei dorri, tasgau i gasglu ffeithiau - oll tra'n dysgu am wyddoniaeth y meddwl.

Ond heb amheuaeth - Pendigeidfrên fydd yn goleuo'r rhan hwnnw o'r pen sy'n ymwneud â'r dychymyg!



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý