ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Cychwyn gobeithiol

4 Awst 2007

Amser paned - Selwyn Evans, ei wraig Ann, a Dafydd Meirion Jones ar y maes ddydd Gwener.

Y tywydd o blaid ac arian yn y pwrs

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ymlaen at gychwyn da gyda chyflwr y maes wedi ei drawsnewid yn llwyr o'r hunllef mwdlyd oedd o ychydig dros wythnos yn ôl yn dilyn glawogydd di-baid.

Ac mae'r trefnwyr yn ffyddiog iddynt wneud digon i ddiogelu'r maes gyda graean a thracfyrddau i ddygymod ag unrhyw newid yn y tywydd yn ystod yr wythnos.

A chyn bwysiced na dim maen nhw'n gwybod yn barod i'r ymgyrch gasglu arian yn lleol fod yn llwyddiant ysgubol gyda llawer mwy na'r nod wedi cyrraedd y coffrau - a darogan y bydd pobl Sir Y Fflint wedi codi mwy o arian na neb arall erioed erbyn y diwedd!

"Y nod oedd £300,000 ac mae £365,000 wedi ei godi," meddai Selwyn Evans, trysorydd y pwyllgor gwaith.

Dywedodd ef i'r gymuned leol ymateb yn rhyfeddol i ymgyrchoedd codi arian o bob math wedi eu llunio i apelio at y gymdeithas leol yn gyffredinol.

"Yr oeddem wedi gwneud yn siŵr bod yna ddigon o ymgyrchoedd a fyddai'n apelio at bobl nad oeddent yn eisteddfodwyr - pethau fel nosweithiau cyri, teithiau, twrnamaint golff a gwthio coets o Nercwys i'r Wyddgrug a gododd fil o bunnau ei hun. Hyn oll ar ben y boreau a'r pnawniau coffi arferol," meddai Mr Evans a oedd yn cynorthwyo ar y maes ddydd Gwener ac yn paratoi stondin ei siop, Siop y Siswrn.

Ychwanegodd i'r ymgyrch godi arian fod yn fodd i ddod a phobl Sir y FFflint at ei gilydd.

"Mi fu yna lawer o bontio," meddai.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý