Mae Côr Godre'r Aran wedi teithio'n bell ers ei ffurfio! Dros y blynyddoedd bu cryn deithio a chrwydro a diddorol fyddai gweld rhestr gyflawn o bob man lle bu cynnal cyngerdd. Yn 2003 aed yn llythrennol ar dro crwn o gylch yr hen ddaear. Bu'r cyfan oll yn wefr a phrofiad i'r aelodau heb sôn am yr hwyl a'r cyfeillgarwch.
Rhaid i bob babi dyfu a datblygu wrth fynd yn hŷn. Roedd y Côr yn fabi go nobl o'r dechrau ac mae sôn o hyd am gampau dyddiau ei ieuenctid, o Eisteddfod Dolgellau 1949 a Gwyliau Cerdd Dant, i'r `Albert Hall' yn 1961. Pedwarawd Colin Jones, Band Taro Ysgol Gynradd y Bala a 'Chôr Penillion Godre'r Aran' oedd yn cynrychioli Gogledd Cymru ar Raglen y flwyddyn honno a swyno'r gynulleidfa ynghanol mor corau meibion mawr y De yn canu "Martyrs of the Arena" a'r tebyg.
Bellach gall Côr Godre'r Aran gystadlu'n gwbl hyderus ysgwydd yn ysgwydd â'r corau hynny, diolch i Eirian Owen sy'n rhoi oriau o'i hamser yn gwbl wirfoddol i'w hyfforddi.
Un o ferched Llanuwchllyn ydy Eirian Owen. Graddiodd gydag anrhydedd dos¬barth cyntaf mewn cerddoriaeth o Goleg y Brifysgol, Bangor ac enillodd ddiploma mewn perfformio ym Mhrifysgol Manceinion yn ogystal â diploma allanol ARCM mewn cyfeilio.
Wedi cyfnod fel athrawes yn Ysgol y Gader, Dolgellau, symudodd i swydd rhan-amser fel cyfeilydd a thiwtor piano yn Ysgol Gerdd Chetham's, Manceinion. Bellach mae hi wedi dychwelyd i Gymru ac mae hi'n dysgu offerynwyr ifanc yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.
Bu'n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1981 ac yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ers 1987 ac mae wedi perfformio gyda'r mwyafrif o'r to ifanc o gantorion Cymreig sy'n prysur ddringo'r ysgol operatig ryngwladol.
Eirian oedd Côr-Feistr Côr Eisteddfod Genedlaethol Meirion ym 1997, ac ym 1998 bu'n Arweinydd Gwadd Gŵyl Genedlaethol Corau Meibion Seland Newydd mewn cyngerdd yn Wellington. Hi ydy Cyfarwyddwr Cerdd Côr Godre'r Aran: côr a lwyddodd, dan ei harweiniad, i ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1989, 1991, 1992, 1993 a 2001 ynghyd a'r wobr gyntaf yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1996 a 2000.
Ym 1999, i gydnabod ei gwasanaeth ym maes cerddoriaeth, urddwyd hi'n Dderwydd yng Ngorsedd y Beirdd a phrofodd fywyd yr ochr arall i'r clawdd cerddorol - fel beirniad corawl yn yr Eisteddfod Genedlaethol - ac yn Awst 2005 roedd hi unwaith yn rhagor, wrth fwrdd beirniad yr Eisteddfod.
Yn ystod 2003 cafodd gyfle i dorri tir newydd trwy gyflwyno dwy gyfres o raglenni cerddoriaeth glasurol ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru. Daeth profiad newydd arall i'w rhan yn ystod Chwefror 2005 gan hedfan i'r Dwyrain Pell i berfformio fel cyfeilydd ar long fordaith oedd yn galw yn Malaysia, Singapore ac India.
Does dim rhyfedd bod disgwyl mawr felly am ymweliad cyntaf Côr Godre'r Aran â'r Rhos a daeth cynulleidfa deilwng iawn i Neuadd y Stiwt, nos Wener. Mehefin 9. Ac fe gafwyd cyngerdd o'r radd flaenaf. Gogoniant Côr Godre'r Aran yw ei ensemble - cyd-effaith pob llais yn creu cyfanrwydd cerddorol ysblennydd, boed yn ganu tawel gweddigar, fel a gafwyd yn y darn Rwsieg ,Blogoslovi (O Fendigaid Nos) a Christus Salvator (Gounod) neu'n ganu dramatig cyffrous - Heriwn, Wynebwn y Wawr (Gareth Glyn) darn sy'n gofyn am adnoddau leisiol anghyffredin; llwyddodd y 38 aelod y côr (gydag Eirian Owen yn arwain a chyfeilio) i ymdopi'n ddiymdrech â phob her lleisiol y darn a'r tenoriaid yn cynhyrchu seiniau disglair a chyffrous dros ben.
Mae i'r côr ystod eang o seiniau ac mae'r lleisiau'n llwyddo i ddethol manylion cynnil a chywrain ym mhob darn, gan beri i wrandawr feddwl ei fod yn gwrando ar ddarn cyfarwydd am y tro cyntaf erioed. Tybed a oes a wnelo'r ffaith fod gwreiddiau Côr Godre'r Aran ym myd Cerdd Dant â'u dawn i anwesu, anwylo a dehongli geiriau? Roedd y ddawn hon yn amlwg ddigon wrth liwio dau ddarn Eric Jones ar eiriau Waldo Williams, Tangnefeddwyr a Cofio; crewyd paws arbennig yn ystod y cyflwyniad hwn.
Ac ni chollwyd y sglein broffesiynol wrth droi i fyd canu poblogaidd fel American Trilogy (tr. Alwyn Humphreys), , a'r gân a wnaed yn enwog gan y grŵp Westlife ac a ganwyd yn angladd George Best - Lord, raise me up.
Unawd yw'r gân Sanctus (Gounod) yn ei ffurf wreiddiol ac er bod trefniant i gorau meibion ar gael, cefndir i unawd tenor gafwyd gan Gôr Godre'r Aran, a'r geiriau ymbilgar yn gweddu'n wych i lais tenor swynol John Ifor.
Mae sawl enillydd ar lwyfannau eisteddfodau Cymru'n canu yn y côr a chafwyd unawdau gan ddau o'r rhain. Tom Evans (Gwanas), enillydd y Rhuban Glas ddwywaith yn y Steddfod Genedlaethol. Canodd Arm! Arm ye brave! ac un o'r hen ffefrynnau Cymraeg Craig yr Oesoedd. Swynwyd y gynulleidfa gan ei dde¬hongliad o'r ddwy gân a chan ei gyflwyniadau ffraeth i'r darnau'n ogystal. Mae ei lais mor loyw ag erioed a'i ganu'n gerddorol a rhwydd. Trebor Lloyd Evans, yntau wedi ennill ar yr unawd bariton a bas yn y Steddfod Genedlaethol, oedd yr ail unawdydd. Mae ganddo lais cyfoethog a mwynhaodd y gynulleidfa ei ddehongliad o un o ganeuon Novello a'r enwog I got plenty o' nothin' yn fawr. Roedd un unawdydd arall - Aled Wyn Davies, tenor. Am fôr o lais! Mae yntau bellach yn enw cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau Cymru ac eisoes yn enillydd ar yr unawd tenor yn Genedlaethol. Canodd Questa o quella o Rigoletto (Verdi) ac O Sole Mio a'i lais fel cloch ar y nodau uchaf; yna ar ôl y gân enwog o'r sioe gerdd Chess, cafwyd dwy gân Gymraeg - O Na byddai'n haf o hyd ac alaw werin a oedd yn anghyfarwydd i lawer, alaw a oedd wedi ennill iddo'r brif wobr yng nghystadleuaeth yr alaw werin yn y GenedlaetholWell i mi ddim! - dehongliad llawn hiwmor a llefaru cynnil. Cyflwynydd y noson oedd Penri Jones - patrwm o gyflwyniadau - yn gryno, di-wastraff, diddorol a sawl sylw ffraeth yn goglais y dychymyg. Do, bu disgwyl mawr am y cyngerdd hwn ac ni siomwyd y gynulleidfa. Cafwyd gwledd o ganu, rhaglen ddiddorol, a graen proffesiynol ar y cyfan.
Go brin y gellid cael gwell canmoliaeth na sylw un o nifer o aelodau Côr Meibion y Rhos a oedd yn y gynulleidfa - "Den' ti gôr! Os faswn i'n byw yn ymyl y Bala faswn i ishio joinio'r côr ene, uffen!"
Gobeithio'n wir na fydd rhaid aros yn rhy hir cyn y gwelwn y côr gwych yma yn harddu llwyfan y Stiwt unwaith eto.