ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Gwerthu stampiau post Post y Ponciau i gau
Medi 2008
Yn anffodus mae'n debyg y bydd y bygythiad yn troi'n ffaith ac fe fydd y Ponciau yn colli ei Swyddfa Bost.

Yn Nene, fis Rhagfyr 2006, o dan y pennawd 'Y Post mewn perygl!', mi roedden ni'n tynnu sylw at y bygythiad i ddwy Swyddfa Bost yn y Ponciau a Johnstown. Ar hyn o bryd mae Johnstown yn saff ond mae Post y Ponciau ymhlith y miloedd fydd yn cael eu cau.

Mae bellach glamp o boster yn ffenestr ac ar wal Post Ponciau yn cyhoeddi y bydd y Post yn cau fis Tachwedd. Mae'n wir fod Martin Jones AS yn trefnu deiseb ac yn hel ffeithiau i wrthwynebu cau'r Post, ac mae ei 'Arolwg Achub Ein Swyddfa Bost' yn gofyn pa mor aml y byddwn yn defnyddio'r Post, pa wasanaethau rydyn ni'n eu defnyddio a pha mor anodd fydd hi i ddefnyddio Swyddfa Bost arall yn yr ardal. Ond nid yw y perchennog, Anne Clewer, yn or-obeithiol ac mae'n ofni mai clust fyddar fydd yn aros unrhyw ddeiseb.

Mae Anne wedi treulio oes yn gweithio i Swyddfa'r Post a daeth i'r Ponciau ddeng mlynedd yn ôl. Yn ystod yr amser hwnnw mae llu o bobl y Ponciau, yn enwedig yr hen a'r methedig, wedi cael ugeiniau o gymwynasau ganddi. Er mai un o ganoldir Lloegr ydy Anne yn wreiddiol, mewn dim o dro roedd wedi cartrefu yn y Ponciau, gan ddilyn traddodiad gloyw y rhai fu'n cadw'r Post o'i blaen.

Yn Creek House, ychydig lathenni i lawr Allt y Bonc, yr agorodd y Post cyntaf yn y Ponciau, bron i ganrif yn ôl. Yna daeth Issac Jones a'i deulu diwylliedig a gyfrannodd gymaint i grefydd, addysg, drama a gwleidyddiaeth yr ardal yno ym 1916 - roedd ei ferch Sara yn dair wythnos oed ar y pryd. Daeth Meirion Morris, y bariton enwog, i Bost y Ponciau o Fwlchgwyn yn Ebrill 1932 ac aros yno am dair blynedd cyn symud i Bost y Rhos. Bydd llawer yn cofio Dennis Thompson a'i deulu yno a'i gyfraniad i weithgareddau Aelwydydd y Rhos a'r Ponciau. Mae Anne Clewer hithau yn yr olyniaeth honno, gan ddilyn traddodiad ei rhagflaenwyr - pobl gymwynasgar yn cyfrannu i fywyd y pentref. Dyna'r traddodiad, ysywaeth, sydd ar fin diflannu.

Mae Anne, ar hyn o bryd, yn bwriadu dal ymlaen efo'r siop ar ôl i'r Post gau, gan iddi wario cymaint ar wella'r lle a'i wneud yn siop gornel go iawn. Pan ddaw mis Tachwedd bydd holl gyfleusterau Post yn diflannu o'r Ponciau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý