ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Cyngerdd y Cyngherddau
Rhagfyr 2005
Llwyddiant ysgubol oedd y geiriau ar wefusau pawb ar ôl Cyngerdd Blynyddol y côr yn Neuadd William Aston, Wrecsam, ddiwedd mis Hydref.
Cafodd y rhai oedd yn ffortunus i gael tocynnau noson i'w chofio gyda gwledd o gerddoriaeth - ni all bron i 900 fod yn anghywir.

Cyffelybodd un gŵr o Wrecsam, un gyda llaw sy'n gwybod be' di be; ym myd cerddoriaeth, y côr i un o'r timau pêl-droed gorau yn y Brif Adran, "Roedd ganddynt sglein a disgyblaeth sydd ddim yn cael ei glywed yn aml ac mae'n ddigon eglur bod John Daniel wedi gwneud ei farc ar y côr."

Parhaodd y clod am gyngerdd i'w gofio am rai dyddiau gyda'r swyddogion yn cael nege¬seuon e-bost a galwadau ffôn ynghyd â llythyrau a llongyfarchiadau personol. Gyda'r holl gyhoeddusrwydd sydd wedi bod o amgylch un o'r artistiaid gwadd, y mezzo ¬soprano hynod o adnabyddus Katherine Jenkins, roedd y cynulleidfa fawr yn ysu am ei chlywed. Ni chawson nhw eu siomi ac anwylodd y ferch o Gastell-Nedd ei hun iddynt gyda'i ymddygiad cynnes.

Felly hefyd y telynor Dylan Cernyw a chwaraeodd ddeuawdau hynod o bleserus gyda'r cyfeilydd Rona Jones.

Rhaglen Katherine
Yn ystod ei rhaglen talodd Katherine Jenkins deyrnged haeddiannol i'r cadeirydd. J. Nor¬man Davies, a'r ysgrifennydd, John Raymond Jones, am y ffordd roedd y ddau wedi ed¬rych ar ei hôl. Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi wedi cael ei phlesio'n arw gyda sain y côr gan obeithio am gael cyfle i rannu llwyfan gyda nhw eto yn y dyfodol. Dechreuodd Kath¬erine Jenkins ei rhaglen gyda O Sole Mio (Di Capua/Capurro) ac aeth ymlaen gyda I Vow To Thee My Country (HolstlSpring-Rice), One Fine Day (Puccini/Giacosallllica), Dafydd y Garreg Wen, Habanera (Georges Bizet) a Somewhere Over The Rainbow (Arlen/Harburg). Yn yr ail hanner canodd Amazing Grace (Carrell/Clayton/Newton), Music of The Night (Lloyd Webber/Hart), Cymru Fach (David Richards/ H. E. Lewis) gyda'r côr yn canu'r cytganau, Time To Say Goodbye (E. Satori/L. Quarantotto) a We'll Meet Again (Parker/Charles).

Eitemau'r delyn
Eitemau y telynor Dylan Cernyw a'r cyfeilydd Rona Jones oedd: Serch Hudol (John Thomas), Caret Penil¬lion (Osian Ellis), Pan Ddaw Yfory (Caryl Parry Jones, trefni¬ant Rona a Dylan), Y Gadlys, y Perch o 'r Scer a Tros y Garreg (Cambria - John Tho¬mas). Un¬waith eto profodd Rona Jones ei bod yn feistres wrth y piano ac roedd Cernyw o'r radd flae¬naf - roedd perfformiad y ddau o sa¬fon uchel. Wrth gwrs mynnodd y gynulleidfa encôr oddi wrth bawb.

Roedd rhaglen y côr yn cynnig tipyn o bopeth - alawon gwerin, caneuon o'r sioeau, darnau operatig ac yn y blaen. Roedd ymateb y gynulleidfa yn arwydd eu bod nhw wedi taro deuddeg a rhaid oedd canu encôr - Gwahoddiad gan John Tudor Davies yn bresennol. Canwyd unawdau gyda'r côr gan Gareth Erlandson, Ian Pritchard Jones a David Scott.

Hwn oedd Cyngerdd Blynyddol cyntaf Cyfarwyddwr cerdd y côr, John Daniel a barn pawb oedd ei fod wedi paratoi'r côr i safon uchel iawn. Hefyd anwylodd ei hun i'r gynulleidfa gyda'i ysmaldod. Arweiniodd Aled Phillips, yr Is-gyfarwyddwr Cerdd, y côr mewn tri darn ac, fel y sylwodd mwy nac un oedd yn y cyngerdd, roedd yn amlwg bod y ddau wedi gweithio'n galed gyda'r aelodau'n ateb i'w harweiniad.

Yn ystod yr ail hanner canodd y côr tri o ddarnau oedd wedi eu trefnu gan gyn-Is¬Gyfarwyddwr Cerdd y côr, y diweddar Emyr James. Buasai Emyr wedi bod wrth ei fodd.

Cafodd y gynulleidfa hwyl mawr cyn y diwedd pan ddaeth John Daniel a Kevin Whitley i'r llwyfan mewn gwasgodau gyda'r Ddraig Goch yn amlwg iawn arnynt. Fel sy'n arferol roedd y cyfeilydd, Kevin Whitley, yn di-fai ar y piano ac mae'r côr yn ffodus iawn i gael tri sydd mor hyddysg mewn cerddoriaeth. Cyflwynodd yr is-gadeirydd, Harold Richards, yr eitemau a gwnaeth eu waith yn daclus.

Gweithiodd llawer yn galed iawn i wneud y Cyngerdd Blynyddol yn un mor llwyddiannus ac mae lle i ddiolch yn fawr iddynt. Roedd ganddynt swyddi gwahanol ac aethant ati i wneud eu rhan yn daclus ac yn ddi-ffwdan. Rhaid cyfeirio'n arbennig at Colin Aubrey, yr ysgrifennydd tocynnau. Cafodd waith caled yn delio â phobl oedd eisiau tocynnau a oedd wedi cael eu gwerthu misoedd cyn y cyngerdd. Roedd y cyngerdd llwyddiannus yn ymdrech tîm heb os.

Cyflwynodd Angharad Stead, wyres y tenor cyntaf Gareth Pritchard, flodeuglwm i Kath¬erine Jenkins ac i Rona Jones ac anrheg i'r telynor Dylan Cernyw.

Byddwch mewn pryd
Mae galwad cynnar am docynnau i Gyngerdd Blynyddol y flwyddyn nesaf. Roedd `pro forma' yn rhaglen y Cyngerdd Blynyddol diwethaf ac mae'r ysgrifennydd tocynnau ei¬soes wedi cael llawer o atebion oddi wrth bobl sydd am fod yn bresennol yn Neuadd Wil¬liam Aston, Wrecsam, nos Sadwrn, Tachwedd 18, 2006. Yr artistiaid gwadd fydd y pi¬anydd hynod o ddawnus o Bentrebychan, Llŷr Williams, a'r mezzosoprano llwyddiannus Ann Murray.

Llythyr
Ymysg y pentwr o longyfarchiadau a gafodd ysgrifennydd y côr, John Raymond Jones, oedd un o Hook yn Swydd Hants, oddi wrth y Cyrnol N. T. Davies, gynt o Drefynnon. Dywedodd ei fod o wedi bod yn ffortunus i gael tocyn a'i bod yn fraint cael bod yn bre¬sennol i glywed y fath wledd a thalodd deyrnged mawr i swyddogion ac aelodau'r côr am berfformiad disglair.

Tair cenhedlaeth
Y mis diwethaf cymerodd y côr ran yng nghyngerdd cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Cymru fydd yn cael ei chynnal yn Y Stiwt y flwyddyn nesaf. Yn canu gyda Chôr Meibion y Rhos oedd yr ail fas Eirwyn Davies o Gaer ac roedd dwy ferch iddo, y Dr. Bethan Bayley a Mrs Carys Lang yn canu gyda Chôr Clywedog. Yn ychwanegol roedd ei wyres, Elin Bayley, ar y llwyfan yn canu gyda Chôr Ysgol Bodhyfryd.

Dal i ymuno
Unwaith eto rydym yn croesawu aelodau newydd i'r côr - wel, un yn dod yn ô ar ôl i alwadau gwaith ei rwystro rhag bod yn bresennol. Mae Paul Scott yn fwy rhydd ar hyn o bryd ac yn gallu ymuno â'i dad David a'i frawd Gareth unwaith eto. Yr aelod newydd ydy Sam Erlandson, brawd i Gareth, sydd yn un o unawdwyr y côr. Mae'r aelodaeth yn codi'n gyson. Beth am ymuno?

Bodloni yn Byley
Cynhaliodd y côr gyngerdd yn Byley, ger Knutsford, ym mis Tachwedd ac yr oedd y neuadd yn llawn i'r ymylon - yn wir roedd rhaid dod â chadeiriau ychwanegol i mewn. Roedd ymateb y gynulleidfa yn dyst eu bod wedi cael noson wrth eu bodd ac roedd rhaid canu encôr.

Unwaith eto aeth yr ysmaldod rhwng Cyfarwyddwr Cerdd y côr, John Daniel, a'r cynulleidfa i lawr yn werth chweil. Arweiniodd yr Is-Gyfarwyddwr Cerdd, Aled Phillips, y côr mewn tri darn yn yr ail hanner a'r cyfeilydd oedd Kevin Whitley. Yr unawdwyr oedd Jim Davies, Gareth Erlandson, Ian Pritchard Jones a David Scott. Cyflwynwyd yr eitemau gan David Thomas.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý