Cyfeithodd J.T.Jones (na, nid ein JT ni!) bump o ddramâu Shakespeare i gyd, sef Hamlet, Nos Ystwyll (Twelfth Night), Marsiandwr Fenis, Bid Wrth Eich Bodd (As You Like It) a Romeo a Juliet. Nôd J T Jones fu gwneud cyfiawnder â Saesneg cyhyrog, coeth a bywiog y dramodydd Saesneg a esgorodd ar gynifer o drosiadau gwych barddoniaeth synhwyrus, dyfnder ystyr y mynegiant, a chwarae ar eiriau. Ei fwriad oedd cyfleu'r farddoniaeth anghymarol yn ogystal ag amwysedd rhyddiaith Shakespeare yn y Gymraeg. Credai mai proses greadigol yw cyfieithu drama o un iaith i iaith arall, ac yn achos dramâu Shakespeare yn arbennig, roedd hynny'n golygu trosi'r Saesneg gorau i'r Gymraeg ar ei gorau. Credai hefyd fod y Gymraeg yn ddigon cyfoethog ei geirfa ac ystwyth ei chystrawen i gyfleu'r Saesneg gwreiddiol yn llwyddiannus a llawn. Mae dramâu Shakespeare yn ymdrin â bywyd yn ei gyfanrwydd. Rhoddodd y dramodydd iaith briodol ac addas i'w gymeriadau - boed wreng neu fonedd. Mae'r gweision yn siarad mewn rhyddiaith, ond mae Romeo a Juliet yn mynegi eu teimladau yn y farddoniaeth fwyaf coeth a phrydferth a glywyd erioed. Fe geisiodd J T Jones gyfleu hyn yn y Gymraeg gan gadw at fesur rhydd, deg sill a di-odl , gan farnu mai hyn sy'n cyfleu naws y ddrama orau. Mae llefaru dramâu Shakespeare yn y gwreiddiol yn gelfyddyd arbennig iawn ac yn gamp anodd. Yn enwedig yn y ddrama arbennig hon gan fod cynifer o'r cymeriadau pwysig mor ifanc. Mae'r gamp, siŵr o fod, yn anos fyth mewn cyfieithiad a rhaid cyfaddef nad oedd y llefaru yn ddigon croyw na'r cymalu a'r brawddegu yn ddigon amrywiol ac ystwyth. Roedd pawb ar ruthr gwyllt ar hyd a lled y llwyfan ac roedd hi'n amlwg eu bod yn credu bod yn rhaid i'w llefaru gydweddu. Mae'n wir mai dyma'r cynhyrchiad proffesiynol cyntaf o'r cyfieithiad Cymraeg o Romeo a Juliet, neu o unrhyw un arall o ddramâu Shakespeare ers dros bymtheg mlynedd felly dydy ein hactorion ifanc ddim yn gyfarwydd â'r traddodiad. O ganlyniad doedd hi ddim yn syndod mai'r actorion hŷn a mwyaf profiadol yn enwedig Christine Pritchard fel y Nyrs a Wynford Ellis Owen fel y Brawd Lorens oedd y mwyaf effeithiol. Ar y llaw arall rhaid canmol pob un o'r actorion am eu hynni a'u hymroddiad. Roedd eu symudiadau'n effeithiol a'r ymladd cleddyfau yn yr Act Gyntaf yn ddigon o ryfeddod a hawdd credu eu honiad eu bod nhw wedi treulio oriau'n meistroli'r grefft hon. Yn yr un modd roedd Lee Haven Jones a Rhian Blythe fel y ddau gariad yn edrych yn effeithiol ac yn llwyddo i gyfleu eu cariad a'r trasiedi a'i dilynodd. Roedd y set yn lliwgar a thrawiadol ac anodd cytuno â Ceri Sherlock yn Golwg bod y miwsig a'r goleuo yn ddi-ystyr ac anghyson. Ond unwaith eto rhaid dod yn ôl at y ffaith syml mai'r geiriau ydy calon pob drama, fel y profwyd yn y Stiwt yn ddiweddar pan berfformiwyd Othello yn eithriadol o rymus a gafaelgar heb gymorth na dodrefnyn nac offer o fath yn y byd. Gobeithio mai dyma'r ymweliad cyntaf o nifer gan ein Theatr Genedlaethol ar ei newydd wedd. Hynny ydy, os byddan nhw am ddod yn ôl. Roedd y gynulleidfa ar y Nos Fawrth yn brin eithriadol. Ac o'r ychydig oedd yno dim ond 11 oedd o'r Rhos a'r Ponciau! Nid oedd enw awdur ar waelod yr erthygl hon yn y papur bro.
 |