Ble bynnag y can odd y côr, cafwyd cymeradwyaeth frwd a sylwadau ffafriol gan y gynulleidfa.Ionawr
Ni chafwyd cyngerdd ond canolbwyntiwyd ar baratoi rhaglenni ar gyfer cyngherddau
Chwefror
Roedd cyngerdd cynta'r flwyddyn yn y Guild Hall, Preston, gan rannu'r llwyfan efo Band adnabyddus Fodens Richardson. Canwyd detholiad o ddarnauo Gymru (Gwyr Harlech), Iwerddon, Yr Alban a Lloegr i gyfeiliant y band.
Cafodd y trefnwyr, Clwb Rotari Preston Amounderness, eu plesio gyrnaint fel eu bod wedi trefnu i'r côr ailymweld a'r neuadd enfawr ym mis Mawrth 2005.Yng Nghyfarfod Blynyddol y côr etholwyd Harold Richards y is-gadeirydd a John Raymond Jones yn ysgrifennydd.
Mawrth
Bu'n rhaid dod a seddau i mewn i Eglwys Crist, Port Sunlight gan fod y gynulleidfa mor fawr. Roedd y neuadd helaeth dan ei sang ac roedd elw'r noson yn mynd i elusen Hosbis Sant loan. Roedd ygynulleidfa' n gweiddi' n daer am encor ar ôl pob eitem!
Ebrill
Cyngherddau yn Neuadd Ddinesig Cei Connah a Neuadd Bushell, Ysgol Penbedw. Eglwys Fethodistaidd Sant loan oedd wedi trefnu'r cyngerdd yng Nghei Connah. Roedd trefnwyr cyngerdd Penbedw wedi darparu swper blasus i aelodau'r cor ar ôl y cyngerdd. Mae'n amlwg bod gan y côr eitha 'fan-club' yng Nghilgwri (Wirral)
Mai
Cafwyd noson i'w chofio Nos Sadwrn, Mai 22, mewn cyngerdd yn Nhy Opera Longborough ar Stad Martin ac Elizabeth Graham ger Moreton-in-Marsh. Roedd yn llwyddiant ysgubol a chafwyd sawl gwahoddiad i ymweld a'r ardal yn fuan, gan gynnwys Martin Graham a estynnodd wahoddiad i'r cantorion ymweld a'r Ty Opera unrhyw amser. Ychwanegodd na fyddai' n codi tal ar unrhyw un a fyddai' n awyddus i drefnu cyngerdd y byddai'r côr yn cymryd rhan ynddo.
Roedd y tywydd yn ffafriol a chyn y cyngerdd gwelwyd nifer o'r gynulleidfa'n yfed siampen ar y terasau ac, wedi'r cyngerdd, roedd swper wedi'i baratoi iddynt mewn neuadd gyfagos.
Roedd y côr yn aros dros nos yng Ngholeg Cenedlaethol y Gwasanaeth Tan yn Motreton-in-Marsh ac ar ôl y cyngerdd, roedd y trefnwyr wedi paratoi pryd i'r côr yn un o westai'r dref. Ar ôl bwyta, cynhaliodd aelodau'r côr gyngerdd answyddogol...wrth gwrs!!l
Cafodd un o'r gwrandawyr yn y gwesty ei blesio i'r fath raddau fel y rhoddodd £20 i Richrd Jones i'w rhoi yng nghoffrau'r côr. Trefnwyd y cyngerdd gan Ffrindiau Meddygfa Mann Cottage, Morteon-in-Marsh. Mae'r Dr. Hywel Davies, mab Norman Davies, Cadeirydd y Côr, yn feddyg yn y Feddygfa a bu'n flaenllaw ynglyn a threfniadau'r cyngerdd.
Mehefin
Ymunodd y côr a Band Pres Wrecsam NEWI ar Iwyfan Neuadd William Aston, Wrecsam. Arweinydd y Band yw Wayne Rushdon. Bu galw mawr am gynnal gyngerdd cyffelyb yn fuan eto.
Yn ystod y mis cafwyd tair sesiwn - nos Wener a bore a phnawn Sadwrn - i recordio CD newydd gyda Sain.
Gorffennaf
Canodd y côr o flaen cynulleidfa o 3,500 yn Arena Dociau'r Brenin yn Lerpwl yn y 'Last Night of the Classical Proms'. Roedd yn rhaid i'r côr a'r gynulleidfa geisio osgoi'r glaw ac ambell bwll o ddwr i gael mynediad i'r Arena. Roedd ymateb aelodau'r gynulleidfa yn dangos yn amlwg eu bod wedi cael noson wrth eu boddau.
Hefyd ar y llwyfan roedd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl dan fatonCarl Davis, y soprano, Dennis Leigh, a chafwyd naws Gymreig gyda Geraint Dodd, y tenor adnabyddus o'r Rhos a'r seren ddisglair, Katherine Jenkins. Canodd y côr Cymru Fach efo'r gantores ifanc o Gastell Nedd.
Gwelwyd nifer o faneri'r Ddraig Goch yn chwifio ymysg y gynulleidfa pan ganwyd y ffefrynnau poblogaidd arferol a gysylltir a Last Night of the Proms.Ar ddiwedd y cyngerdd dywedodd Carl Davis y byddai' n rhaid i'r côr a'r gerddrofa ymuno'n amlach yn y dyfodol.
Medi
Ni chafywd cyngerdd yn ystod y mis a chanolbwyntiwyd ar baratoi'r darnau argyfer y cyngerdd blynyddol.
Hydref
Daeth cynulleidfa fawr i neuadd gyngerdd drawiadol iawn Coleg Concord, Church Strelton i fwynhau noson yng nghwmni'r côr.
Tachwedd
Yn ôl yr arfer, cafwyd noson Iwyddiannus dros ben yn Neuadd William Aston a chynulleidfa o 900 yn ymateb yn frwd i bob eitem.
Yr artristiaid oedd Tito Beltran a'r fiolinydd Sophie Rosa a chafwyd perfformiadau disglair gan y ddau.Daeth cyfnod W.Tudor Jones fel Cyfarwyddwr Cerdd y côr i ben ar ddiweddy cyngerdd a thalwyd teyrnged iddo a diolch iddo am ei waith dras y 12 mlynedd diwethaf. Dan ei arweinyddiaeth cafwyd sawl IIwyddiant a diolchwyd iddo hefyd am ei gyfraniad i gerddoriaeth yr ardal fel arweinydd band a chorau dros gyfnod o 32 mlynedd.
Lansiwyd CD newydd y côr, Taith Gerddorol yng nghwmni Côr Meibion Rhosllannerchrugog yn ystod y cyngerdd. Eisoes mae ne fynd go arw wedi bod arni. Wedi'r cyngerdd roedd lluniaeth wedi'i drefnu yng Ngwesty'r Belmont, Wrecsam. Ddiwedd y mis, torrodd y côr dir newydd pan gynhaliwyd cyngerdd ym mhentref Trefeglwys, ger Caersws.
Cyhoeddwyd hefyd fod John Daniel, sy'n adnabyddus yng nghylchoedd cerddorol lleol a chenedlaethol, wedi cytuno i dderbyn y swydd o Gyfarwyddwr Cerdd y côr. Mae eisoes wedi cymryd nifer o ymarferion a bydd yn dechrau o ddifrif yn ei swydd yn gynnar ym mis lonawr. Croeso mawr iddo.
Rhagfyr
Cymerodd y côr ran mewn gwasanaeth goleuo canhwyllau ar Goeden Nadolig Hosbis Ty'r Eos yn gynnnar yn y mis a dilynwyd hynny gan gyngerdd byr yng I Nghlwb yr Hafod ar gyfer y pensiwynwyr.
Beth am ymuno?
A hithau'n adeg gwneud addunedau Blwyddyn Newydd, beth am benderfynu ymuno a Chôr Meibion y Rhos? Mae'r ymarferion bob nos Lun yng Nghlwb yr Hafod am 7.15 ac yn y Stiwt bob nos lau am 7.15. Yn sicr, bydd 'ne groeso cynnes i unrhyw un sydd am ymuno.