ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Chwilio am y ffilm hynaf

10 Awst 2007

logo Sgrin a Sain Cymru

Archif eisiau gweld y Steddfod cyn 1925

Mae Archif Ffilm Cymru yn chwilio am y ffilm hynaf am yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y ffilm hynaf sydd gan yr Archif ar hyn o bryd yw un, munud a 33 eiliad o orymdaith yr Orsedd a'r Archdderwydd Elfed yn coroni Wil Ifan yn 1925.

"Byddai canfod ffilm hÅ·n na 1925 o'r Eisteddfod Genedlaethol yn hynod o werthfawr a diddorol i gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru," meddai'r cynhyrchydd a chyfarwyddwr John Hefin.

Gall fod yn waith camera amatur neu broffesiynol.

"Mae'n siŵr gen i fod yna ffilm, neu ddarn o ffilm coll, allan mewn llofft neu hen archif yng Nghymru neu du hwnt. O gofio i'r Eisteddfod ymweld â Phenbedw yn 1917, efallai bod ffilm i'w chael yn ardal Lerpwl, hyd yn oed," meddai

Gwnaed yr apêl pan lansiwyd gŵyl ffilm Fflics, sydd i'w chynnal yn Aberystwyth, ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol gan yr actores Nia Roberts, seren Solomon a Gaenor .

Cynhelir 'Fflics - Clasuron Sgrin Cymru' ar y cyd gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth Hydref 2007.

Ymhlith uchel bwyntiau'r ŵyl bydd print adferedig o How Green was my Valley yn ogystal â'r ffilm fud y daethpwyd o hyd iddi, The Life Story of David Lloyd George.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý